• Wrth arwain y ddadl dywedodd Leighton Andrews AC fod y strategaeth yn gweithio tuag at "annog a chefnogi'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn teuluoedd, cynyddu'r ddarpariaeth o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chryfhau sefyllfa'r iaith Gymraeg yn y gymuned".

    BBC: Dadl ar strategaeth yr iaith Gymraeg 2012-17

  • Yng Nghymru, mae dyfodol ansicr i dros 3300 o weithwyr y cwmni bwyd o'r Iseldiroedd yn dilyn cyhoeddi'r newyddion o'i bwriad i werthu ei safleoedd yma.

    BBC: Datganiad busnes

  • Fe wnaeth y gweinidog hefyd ateb cwestiynau ar wella'r broses o ddyrannu grantiau, y symiau ariannol canlyniadol i Gymru sy'n deillio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain a dyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau.

    BBC: Cwestiynau cyllid

  • Fe ofynodd Ken Skates, AC De Clwyd, a oedd Ms Hart yn cytuno bod angen diffiniad mwy tynn o'r term 'menter gymdeithasol' a gofynnodd a fyddai'n ystyried sut y gallai'r llywodraeth gefnogi mentrau o'r math gyda chyllid cychwynnol a chyfalaf.

    BBC: Cwestiynau Busnes

  • Dywedodd Ms Sandbach mai dim ond o ganlyniad i'r dirywiad economaidd y mae'n bosibl cyflawni'r targed o 3% o ostyngiad blynyddol.

    BBC: Dadl ar y newid yn yr hinsawdd

  • Mae'r ffigurau diweddara a gyhoeddwyd ar 13 Mawrth 2012, yn dangos bod GDP Cymru yn parhau yn is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn 80% o'r cyfartaledd Ewropeaidd.

    BBC: Pwyllgor Menter a Busnes

  • Pwysleisiodd yr angen i werthfawrogi'r rhan fwyaf o'r gwaith da a wnaed yn y maes hwn, yn hytrach na chanolbwyntio yn unig ar yr enghreifftiau ynysig o gam-drin.

    BBC: Datganiad ar adolygiadau achosion difrifol

  • Er bod afiechydon o'r fath yn brin, mae nifer fawr o bobl yn dioddef o afiechydon o'r fath.

    BBC: Dadl fer: Clefydau anghyffredin

  • Ar y mater o gronfeydd cydlyniant Ewropeaidd, dywedodd Mr Jones fod penderfyniadau allweddol sy'n ymwneud ag amodau'r cyllid o 2013 ymlaen yn yr arfaeth.

    BBC: Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol

  • Rhybuddiodd Dr Alistair Davies o'r llywodraeth fod "cymhlethdod rheolau cyfrifo, y lefel o risg a'r amserlen wedi bod yn rhwystr i SMEs".

    BBC: Pwyllgor Menter a Busnes

  • Roedd yna alwadau i wella'r system o gadw cofnodion, a'i gwneud yn haws i ffermwyr.

    BBC: Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd

  • Dywedodd y gweinidog y byddai'r mesur gwasanaethau cymdeithasol yn ymateb i'r mwyafrif o bryderon yr aelodau.

    BBC: Dadl y Ceidwadwyr

  • Roedd y pwyllgor cynaliadwyedd yn cynnal ymchwiliad i'r ddarpariaeth o randiroedd yng Nghymru, ar 18 Mawrth 2010.

    BBC: Pwyllgor cynaliadwyedd

  • Roedd fodd bynnag, yn croesawu'r defnydd o dechnoleg ddigidol a linc fideo gan y gallai alluogi cynghorwyr i gyfrannu o gartref os oedd angen.

    BBC: Pwyllgor deisebau

  • Dadleuodd Edwina Hart AC "fod y dirywiad cymharol mewn perfformiad yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd yn ganlyniad o'r dirywiad a welwyd yn y Deyrnas Unedig mewn termau ystadegol".

    BBC: Pwyllgor Menter a Busnes

  • Bu Angela Burns AC, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn galw am gyflwyno system gwregys las, lle mae'r datblygiad o eiddo preswyl ar dir ger afonydd, arfordiroedd a llynnoedd mewn risg uchel o lifogydd ei wahardd.

    BBC: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar system parth glas

  • Mae Horizon 2020 yn rhaglen ymchwil a datblygu Ewropeaidd a'r bwriad yw ffurfio rhan allweddol o'r ymgyrch gyffredinol i greu twf a swyddi newydd ar draws Ewrop.

    BBC: Pwyllgor Menter a Busnes

  • Wrth annerch pwyllgorau'r cynulliad, fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru Huw Vaughan Thomas feirniadu'r mesur drafft oherwydd ei fod o'r farn y gallai gyfyngu ar swydd yr archwilydd cyffredinol.

    BBC: Datganiad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus

  • Fe wnaeth ef honni bod 40% o welyau mewn ysbytai yn cael eu defnyddio gan bobl a allai gael eu gofalu amdanynt mewn mannau eraill, gan ychwanegu bod symud gwasanaethau o ysbytai i'r gymuned yn rhan o'u cynllun ar gyfer yr ad-drefnu.

    BBC: Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:Sesiwn y bore

  • Dywedodd Ms Griffiths, oherwydd bod Cymru gyfan yn derbyn un ffurf neu'i gilydd o gyllid strwythurol, mae'r wlad yn methu o ran ffrydiau cyllid Ewropeaidd eraill sydd ar gael.

    BBC: Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol

  • Roedd cynrychiolwyr o'r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn ateb cwestiynau aelodau'r pwyllgor ar 11 Ionawr 2011 fel rhan o'u hymchwiliad dilynol i dlodi plant yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar addysg.

    BBC: Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

  • Dywedodd Mr Thomas fod yna ddiffyg cofnodion digonol yn rhoi'r awdurdod i'r fath hyfforddiant ac na fyddai cyllidebau'r cwmni yn y dyfodol yn cynnwys "gwastraff o'r fath mewn costau hyfforddi".

    BBC: Pwyllgor cyfrifon cyhoeddus

  • Dywedodd Mr Martin mai "diogelwch a chynaliadwyedd" ydi'r prif ystyriaethau sydd yn cymryd eu sylw fel rhan o'r broses ymgynghori.

    BBC: Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:Sesiwn y bore

  • Roedd Byron Davies, hefyd yn AC y Ceidwadwyr yn yr ardal, eisiau i'r llywodraeth sicrhau bod digon o staff i wireddu'r cynlluniau newydd.

    BBC: Cwestiynau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

  • Esboniodd y Prif Swyddog Milfeddygol y byddai tagio yn syniad da, ond "dydy'r dechnoleg ddim yn bodoli i wneud hyn heb roi anesthetig i'r mochyn daear", ac efallai byddai angen "trwydded o'r Swyddfa Gartref i wneud hyn hefyd".

    BBC: Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd

  • Dyma'r cynnig cyntaf o ddiffyg hyder i gael ei gyflwyno ers etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2011.

    BBC: Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Dywedodd hefyd fod croeso i unrhyw ysgolion sy'n credu eu bod wedi eu gosod yn y band cywir gysylltu, a byddai ei swyddogion yn asesu'r penderfyniad maes o law.

    BBC: Dadl Plaid Cymru

  • Mae'r rhyddhad ardrethi ar gyfer siopau elusen yn 80% ar hyn o bryd tra mae adeiladau gwag yn gorfod talu'r gyfradd lawn wedi tri mis o fod yn wag.

    BBC: Pwyllgor Menter a Busnes

  • Ar y pryd cafodd y system ei ddisgrifio gan rai fel loteri cod post, tra bod eraill o'r farn bod y system yn gwneud hi'n anodd i rieni i ddod o hyd at ofal addas ar gyfer eu plant.

    BBC: 12 Mehefin 2007: Yr LCO cyntaf

  • Dywedodd gweision sifil sy'n gyfrifol am weithredu'r rhaglen wrth y pwyllgor bod y rhaglen yn cymryd agwedd fwy strategol at fuddsoddi cyfalaf nag o'r blaen.

    BBC: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

$firstVoiceSent
- 来自原声例句
小调查
请问您想要如何调整此模块?

感谢您的反馈,我们会尽快进行适当修改!
进来说说原因吧 确定
小调查
请问您想要如何调整此模块?

感谢您的反馈,我们会尽快进行适当修改!
进来说说原因吧 确定