-
Amlinellodd Gwenda Thomas AC ei chynllunio i ail-strwythuro'r broses fabwysiadu yng Nghymru drwy'r bil gwasanaethau cymdeithasol arfaethedig wrth iddi ateb cwestiynau gan aelodau'r pwyllgor iechyd.
BBC: Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
-
Mae Ms Hart yn gobeithio y bydd canlyniad y cais am enwau parth lefel-uchaf yn cael ei ddatgelu cyn diwedd y flwyddyn, er iddi rybuddio y gallai fod yn 2013 cyn i hynny ddigwydd.
BBC: Dadl Plaid Cymru
-
Wrth amddiffyn y llywodraeth, fe wnaeth y Gweinidog Cyllid Jane Hutt dynnu sylw at y datblygiad sydd wedi ei wneud yn nhermau rheoli grantiau dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth iddi ddadlau fod gan y llywodraeth weithdrefnau mewn lle nawr i osgoi camddefnydd o grantiau.
BBC: Dadl y Ceidwadwyr
-
Atgoffodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams y siambr fod y gweinidog iechyd wedi mynnu bod rhaid i reolwyr y gwasanaeth iechyd "gyrraedd y targedau sydd wedi eu gosod" wrth iddi bwysleisio ei bod hi'n rhoi llawer o bwys ar weithio o fewn y gyllideb benodedig.
BBC: Cwestiynau'r prif wenidog