Lleisiwyd pryder gan aelodau'r tair gwrthblaid ynghylch ymarferoldeb y cynllun a'r ymrwymiad ariannol sydd wedi ei wneud gany llywodraeth yn seiliedig ar ffigyrau sydd wedi eu hamcangyfrif.
Pwysleisiodd Mark Isherwood AC ar ran y Ceidwadwyr hefyd lwyddiannau llywodraeth y DU yn taclo'r broblem, gan gyfeirio at y bwriad yn y bil ynni arfaethedig i sicrhau tariffau isel i bob cwsmer.
Bu'r ACau yn holi Mr Jones ar bynciau amrywiol gan gynnwys lleddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd a dyfodol statws Llyn Padarn fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.