Lleisiwyd pryder gan aelodau'r tair gwrthblaid ynghylch ymarferoldeb y cynllun a'r ymrwymiad ariannol sydd wedi ei wneud gan y llywodraeth yn seiliedig ar ffigyrau sydd wedi eu hamcangyfrif.
Pwysleisiodd Mark Isherwood AC ar ran y Ceidwadwyr hefyd lwyddiannau llywodraeth y DU yn taclo'r broblem, gan gyfeirio at y bwriad yn y bil ynni arfaethedig i sicrhau tariffau isel i bob cwsmer.
Bu'r ACau yn holi Mr Jones ar bynciau amrywiol gan gynnwys lleddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd a dyfodol statws Llyn Padarn fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Bydd y trydaneiddio yn lleihau'r amser teithio rhwng y ddwy brif ddinas gan 20 munud a bydd y trenau yn rhatach i'w rhedeg.
Roedd aelodau o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn rhoi tystiolaeth ar 11 Hydref 2012, gan gynnwys y Cadeirydd Chris Martin a'r Prif Weithredwr Trevor Burt.
Gwnaeth cynrychiolwyr o Gymdeithas Alzheimer's a Parkinson's UK Cymru bwysleisio pwysigrwydd diagnosis cynnar ar gyfer y ddau afiechyd, a hefyd yr angen i hyfforddi gweithwyr i ddelio gyda'r afiechydon yma gan fod cymaint o ddioddefwyr yn y system gofal ar hyn o bryd.
Fe heriodd y safbwynt hwn, gan ddweud ei fod yn gofidio am ddiffyg sgrinio problemau posib y gallai'r plentyn ddatblygu, wrth ddewis teulu mabwysiadol y plentyn.
Gan y bydd gwaith ar y llinell yn dechrau yn 2017, roedd gan lywodraeth y cynulliad gyfle i argyhoeddi llywodraeth y DU i drydaneiddio'r llinell yn ei gyfanrwydd, ychwanegodd.
Ar y pryd cafodd y system ei ddisgrifio gan rai fel loteri cod post, tra bod eraill o'r farn bod y system yn gwneud hi'n anodd i rieni i ddod o hyd at ofal addas ar gyfer eu plant.
Os na fydd llywodraeth Cymru yn bodloni'r gofynion caeth a bennir gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rheoli arian yr Undeb Ewropeaidd yn effeithiol, mae perygl y caiff llywodraeth Cymru ei chosbi'n ariannol.
Roedd y Democrat Rhyddfrydol Peter Black AC yn feirniadol o'r datganiad gan ddweud ei fod yn dipyn o siom gan ddweud fod ynddo "brinder gwybodaeth ynghylch cyfeiriad y gweinidog".
Fe wnaeth Mr Jones dalu teyrnged i'r gwasanaethau brys a wnaeth helpu'r rheini a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar.
Mae'r llywodraeth wedi mynnu bod adroddiad yr Athro Longley wedi'i gomisiynu gan brif weithredwyr y byrddau iechyd lleol a nad oedd ganddynt unrhyw ddylanwad arno ac eithrio i ddarparu gwybodaeth i'r awdur.
Rhoddwyd awgrym o gynnwys y mesur gan Mr Duncan a chynrychiolydd arall o'r llywodraeth, Chris Jones.
Beirniadodd Mr Jones y datganiad am fod yn amwys gan ddadlau taw'r hyn mae pobl am wybod yw pa brosiectau fydd yn cael eu cyhoeddi, lle fyddan nhw a sut byddan nhw'n gallu helpu'r economi.
Roedd fodd bynnag, yn croesawu'r defnydd o dechnoleg ddigidol a linc fideo gan y gallai alluogi cynghorwyr i gyfrannu o gartref os oedd angen.
Sefydlwyd y fforwm yn 2011 gan y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths er mwyn rhoi cyngor arbenigol annibynnol i'r cynulliad ar effeithiau disgwyliedig yr ad-drefnu.
Fe fyddai'r bil hefyd yn berthnasol i gleifion sydd wedi cael dyfarniad neu setliad sifil yn y llys neu'r tu allan i'r llys gan gyflogwr neu gorff arall.
Fe wnaeth yr AC Ceidwadol Suzy Davies alw ar y llywodraeth i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi'r strategaeth.
Bu'r AC Ceidwadol Russell George yn dadlau y byddai llais cryfach gan Gymru wrth gydweithio gyda llywodraeth y DU a phwysleisiodd fod rhaid sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gael y setliad byd-eang gorau.
Bu hefyd yn feirniadol o'r system fandio am fod yn rhy debyg i dablau perfformio gan rybuddio y gallent gael yr un effeithiau damniol.
Bydd egwyddorion cyffredinol y bil nawr yn cael eu hystyried gan bwyllgor cyn iddo gael ei gyflwyno i'r cynulliad.
Amlinellodd Peter Black AC i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngorllewin De Cymru fanteision cael pwerau amrywio treth incwm gan y byddai'n rhaid i lywodraeth y cynulliad fod yn atebol am ei chyllid ei hun.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd bwysleisio bod y penderfyniad i gofnodi, darlledu neu gynnig ffrwd byw o holl gyfarfodydd y cyngor sydd ar agor i'r cyhoedd eto i gael ei wneud gan yr awdurdodau unigol.
Mae BBC Cymru wedi datgelu y gallai adroddiad academaidd annibynnol sy'n amlinellu'r newidiadau i'r NHS, fod wedi cael ei ddylanwadu gan gysylltiadau rhwng yr awdur ac uwch swyddogion y llywodraeth.
Esboniodd Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bod lefelau staff nyrsys ar fin cynyddu, gan eu bod yn y broses o recriwtio saith nyrs sy'n arbenigo mewn gofal newyddenedigol i'r bwrdd iechyd.
Wrth agor y ddadl tynnodd Janet Finch Saunders AC sylw at sawl cynllun o eiddo'r llywodraeth y mae hi'n dweud nad oedd yn werth am arian, gan gynnwys adeilad llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
Fe wnaeth AC y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott AC hefyd groesawu'r cyfle i ddadlau gweledigaeth Ms Wood ar gyfer y cymoedd, ond pwysleisiodd nad oedd gan y ddogfen "yr holl atebion".
Roedd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC, wedi amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol y Cynulliad am y flwyddyn, gan nodi mai tlodi plant, tai, iechyd, addysg, yr amgylchedd a'r Iaith Gymraeg yw blaenoriaethau'r llywodraeth.
Gan nad yw hi'n bosib i gynnal arwerthiannau da byw eleni oherwydd cyfyngiadau Clwy y Traed a'r Genau, mae'r Gymdeithas, drwy gymorth Cwysi, wedi trefnu arwerthiant meheryn drwy gamera digidol, i'w chynnal gydag arwerthwyr newydd marchnad da byw Llanrwst, Bradburne Price, ddydd Gwener, Hydref 19 am 11 y bore yng ngwesty'r Eryrod, Llanrwst.
应用推荐