Wrth gyflwyno'r cynnig fe ddywedodd yr AC Simon Thomas y gallai Cymru gael ei brandio "yn fwy effeithiol" a bod gwell gan bron i 60% o drigolion Cymru y parth '.cymru' yn hytrach na '.wales', er bod busnesau yn dweud fel arall.
Wrth annerch pwyllgorau'r cynulliad, fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru Huw Vaughan Thomas feirniadu'r mesur drafft oherwydd ei fod o'r farn y gallai gyfyngu ar swydd yr archwilydd cyffredinol.