Gan nad yw hi'n bosib i gynnal arwerthiannau da byw eleni oherwydd cyfyngiadau Clwy y Traed a'r Genau, mae'r Gymdeithas, drwy gymorth Cwysi, wedi trefnu arwerthiant meheryn drwy gamera digidol, i'w chynnal gydag arwerthwyr newydd marchnad da byw Llanrwst, Bradburne Price, ddydd Gwener, Hydref 19 am 11 y bore yng ngwesty'r Eryrod, Llanrwst.