-
Cymru yw un o sylfaenwyr Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, sy'n cynrychioli dros 600 o lywodraethau is-genedlaethol o fewn y Cenhedloedd Unedig ar faterion cynaliadwyedd.
BBC: Dadl Plaid Cymru
-
Fe wnaeth Ms Hart hefyd ateb cwestiynau am roi ar waith amcanion y Strategaeth Iaith Gymraeg o fewn cyd-destun adfywio economaidd, trafodaethau gyda chwmni Tata Steel, polisi gwyddoniaeth y llywodraeth a mynediad i fand llydan.
BBC: Cwestiynau Busnes
-
Ond fe ddywedodd llefarydd Economi'r Ceidwadwyr David Melding ei fod wedi'i synnu nad oedd y llywodraeth wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio achub y swyddi ac i berswadio Bosch i gadw'r ffatri ar agor.
BBC: Datganiad ar Bosch