Tynnodd Simon Thomas AC Plaid Cymru sylw at y ffaith fod y nifer o fyfyrwyr o Loegr sy'n dewis astudio yng Nghymru a thalu'r pris yn llawn eisoes yn llai na'r disgwyl.
Mae myfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn gymwys i gael y cymhorthdal er bod disgwyl i fyfyrwyr o Loegr, yr Alban a gogledd Iwerddon dalu'r pris yn llawn.