Pwysleisiodd Leighton Andrews AC taw nod y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion ac nid creu tablau perfformio.
Clefydau prin yw heintiau sy'n effeithio ar ganran fach o'r boblogaeth megis haemoffilia a nychdod cyhyrol.
Mae'n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i dalu am frecwastau os yw corff llywodraethu ysgol yn gofyn amdanynt.
Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen llywodraeth y cynulliad i wella amodau byw a rhagolygon y bobl yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae cefnogaeth drawsbleidiol i newid y system ariannu wrth i'r pleidiau gytuno nag yw'r setliad ariannol presennol yn addas i'r diben.
Nod y ddeddf, a gyflwynwyd yn 2009, yw gwella rheolaeth, cynyddu cadwraeth amgylchedd morwrol a gwella'r mynediad hamdden i arfordir Cymru.
Dywedodd Ms Hart mai pwrpas parthau menter yw "creu cyfleoedd am swyddi".
Heriwyd y ddau i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y system newydd ar hen un os yw'r teulu sy'n parhau i gael y gair olaf.
Un o'r problemau mwyaf wrth weithredu cynlluniau rheoli arfordirol (SMPs) yw bod yr amser sydd ganddynt i ystyried y mater, yn aml yn hir iawn.
Nod yr ymchwiliad yw edrych ar sut y gall y llywodraeth gynorthwyo a darparu cyfleoedd i feithrin y diddordeb cynyddol mewn rhandiroedd a garddio cymunedol.
Mae Horizon 2020 yn rhaglen ymchwil a datblygu Ewropeaidd a'r bwriad yw ffurfio rhan allweddol o'r ymgyrch gyffredinol i greu twf a swyddi newydd ar draws Ewrop.
Cymru yw un o sylfaenwyr Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, sy'n cynrychioli dros 600 o lywodraethau is-genedlaethol o fewn y Cenhedloedd Unedig ar faterion cynaliadwyedd.
Fodd bynnag, mae adroddiad y gyllideb yn esbonio er bod yr adran "wedi bod mewn sefyllfa yn y gorffennol lle'r oedd cyllidebau'n cynyddu'n flynyddol, nid yw hyn yn wir bellach".
Rhybuddiodd Lisa Turnbull o Goleg Brenhinol y Nyrsys fod y mater o greu swyddi yn broblem ond taw'r broblem sylfaenol yw cael staff hyfforddedig i lenwi'r swyddi hynny.
Lleisiodd bryder hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau 3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol.
Dywedodd AC y Ceidwadwyr Suzy Davies nad yw ysbyty Treforys "yn ymdopi" a'i bod yn poeni bod uno tair uned frys mewn un ysbyty yn "mynd yn rhy bell".
Amcan y Bil yw galluogi'r llywodraeth, ar ran y wasanaeth iechyd yng Nghymru, i adennill costau gofal a thriniaethau meddygol sydd wedi cael eu darparu i gleifion sy'n dioddef clefyd Asbestos.
Diben y bwrdd, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o amryw o wasanaethau a sectorau ar draws Cymru, yw rhoi arweiniad a phennu camau priodol i hwyluso arbedion a gwelliannau yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Tra'i fod yn cydnabod nad yw'r rhaglen yn addas ar gyfer pawb gan fod cost uchel i gymryd rhan, pwysleisiodd Dr Davies "fod y manteision ar gyfer yr SMEs iawn yn anferthol".
"Nid yw taliadau uniongyrchol yn gweddu i bob person anabl, rhaid i gyllid canolog i ofal cymdeithasol barhau hefyd, " meddai, gan dderbyn gwelliannau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gynnig ei blaid.
Roedd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC, wedi amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol y Cynulliad am y flwyddyn, gan nodi mai tlodi plant, tai, iechyd, addysg, yr amgylchedd a'r Iaith Gymraeg yw blaenoriaethau'r llywodraeth.
Bwriad y gweinidog yw sicrhau fod ymchwil ac arloesi yn rhan allweddol o'r gwasanaeth iechyd, er mwyn cwrdd ag anghenion cleifion yng Nghymru, gwella iechyd a chynyddu nifer y bobl mewn gwaith.
Bwriad Glastir yw darparu cydbwysedd rhwng yr angen i gynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd, i fod ar gael i bobl ffermwr ac i ledaenu arian i weithredu cynlluniau amaeth-amgylchedd yn fwy eang ymysg ffermwyr Cymru.
Nid yw ardrethi busnes wedi cael eu datganoli'n llwyr ar hyn o bryd ond mae adroddiad y Comisiwn Silk a ryddhawyd ar 19 Tachwedd 2012 yn awgrymu y dylai llywodraeth Cymru geisio sicrhau cyfrifoldeb llwyr drostynt.
Mynegodd byrder ei bod hi'n annhebygol y bydd y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd ei tharged o ymateb i 65% o alwadau o fewn wyth munud dros y gaeaf os yw hi'n methu a gwneud hynny pan fo'r tywydd yn fwynach.
Gan nad yw hi'n bosib i gynnal arwerthiannau da byw eleni oherwydd cyfyngiadau Clwy y Traed a'r Genau, mae'r Gymdeithas, drwy gymorth Cwysi, wedi trefnu arwerthiant meheryn drwy gamera digidol, i'w chynnal gydag arwerthwyr newydd marchnad da byw Llanrwst, Bradburne Price, ddydd Gwener, Hydref 19 am 11 y bore yng ngwesty'r Eryrod, Llanrwst.
应用推荐