Fe wnaeth hefyd ddadlau o blaid gweithredu mesurau sy'n gwella'r tryloywder sydd ynghlwm wrth wario arian cyhoeddus.
Dywedodd fod na "broblemau difrifol" gyda chyllidebau iechyd a gofynnodd "pa obaith sydd na i fyrddau iechyd lleol lwyddo"?
Dywedodd Mr Martin mai "diogelwch a chynaliadwyedd" ydi'r prif ystyriaethau sydd yn cymryd eu sylw fel rhan o'r broses ymgynghori.
Bu'r pwyllgor hefyd yn cymryd tystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad i dai ar gyfer oedolion sydd ag anghenion iechyd meddwl.
Dywedodd fod llawer o dystiolaeth a oedd yn gyhoeddus, ond yn aml mae 'na wybodaeth sydd ddim yn cael ei gyhoeddi.
Bu llywodraeth Cymru yn arwain y ddadl ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn amlinellu'r datblygiadau sydd wedi cael eu gwneud hyd yma.
Roedd consensws trawsbleidiol o bwysigrwydd y mater o ystyried bod 57% o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd.
Un o'r problemau mwyaf wrth weithredu cynlluniau rheoli arfordirol (SMPs) yw bod yr amser sydd ganddynt i ystyried y mater, yn aml yn hir iawn.
Nododd y Bont-Faen fel enghraifft o stryd fawr ffyniannus sydd wedi llwyddo i oresgyn yn erbyn sialensiau'r canolfannau tu allan i'r dre a siopa ar-lein.
Mae Galw Iechyd Cymru yn rhan o'r system gofal heb ei drefnu yng Nghymru, sy'n golygu unrhyw ofal iechyd neu gymdeithasol na chynlluniwyd ac sydd ar frys.
Fe fyddai'r bil hefyd yn berthnasol i gleifion sydd wedi cael dyfarniad neu setliad sifil yn y llys neu'r tu allan i'r llys gan gyflogwr neu gorff arall.
Pan gafodd ei holi ar gyfyngiadau'r gyllideb ar gyfer 2013-14, roedd Mr Davies yn hyderus y gallai ei adran weithredu ymrwymiadau llywodraeth Cymru gyda'r arian sydd ar gael.
Dywedodd Ms Griffiths, oherwydd bod Cymru gyfan yn derbyn un ffurf neu'i gilydd o gyllid strwythurol, mae'r wlad yn methu o ran ffrydiau cyllid Ewropeaidd eraill sydd ar gael.
Amcan y Bil yw galluogi'r llywodraeth, ar ran y wasanaeth iechyd yng Nghymru, i adennill costau gofal a thriniaethau meddygol sydd wedi cael eu darparu i gleifion sy'n dioddef clefyd Asbestos.
Rhybuddiodd Darren Millar AC bod y ffigyrau isel o bobl sydd wedi derbyn y brechiad ffliw, y cam ddefnyddio o unedau brys a'r cyfyngiadau ariannol i gyd yn cyfrannu at y "argyfwng".
Fe nododd Byron Davies, AC Gorllewin De Cymru fod Heddlu Gwent yn enghraifft ardderchog o awdurdod heddlu sydd wedi adnabod cynlluniau i gyflawni arbedion enfawr trwy gydweithredu a gwelliannau system, ymysg pethau eraill.
Fe wnaeth yr aelod Plaid Cymru Leanne Wood nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.
Dywedodd Ms Kirrane wrth aelodau'r pwyllgor fod angen wyth neonatolegwyr ar rota llawn er mwyn darparu lefel diogel o ofal, ond dim ond un ymgynghorydd sydd ar draws gogledd Cymru ar hyn o bryd.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd bwysleisio bod y penderfyniad i gofnodi, darlledu neu gynnig ffrwd byw o holl gyfarfodydd y cyngor sydd ar agor i'r cyhoedd eto i gael ei wneud gan yr awdurdodau unigol.
"Ein busnes ni ydi hyfforddi ac addysgu doctoriaid, dydi hynny ddim wedi newid - ond dydyn ni ddim yn cyflawni hynny i'r safonau sydd ei hangen ar y cyngor meddygol ar hyn o bryd, " meddai.
Fe wnaeth Ms Griffiths ddiolch i fudiadau iechyd, sefydliadau addysgol ac aelodau'r cyhoedd am eu cymorth wrth ddatblygu'r fframwaith a dywedodd y byddai'n gofyn i swyddogion ystyried sylwadau ACau wrth baratoi'r fersiwn derfynol sydd i'w chyhoeddi fis Mai.
Esboniodd Dr Davies mewn cyhoeddiad a roddwyd i'r pwyllgor, ei bod hi'n ymddangos bod "rhagdybiaeth o fewn asiantaethau gofal cymdeithasol, bod modd i blant ifanc sydd wedi dioddef caledi sylweddol, dderbyn y gofal gorau gan deulu mabwysiadol, oherwydd eu bod nhw'n ifanc".
Wrth amddiffyn y llywodraeth, fe wnaeth y Gweinidog Cyllid Jane Hutt dynnu sylw at y datblygiad sydd wedi ei wneud yn nhermau rheoli grantiau dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth iddi ddadlau fod gan y llywodraeth weithdrefnau mewn lle nawr i osgoi camddefnydd o grantiau.
Bydd bil arfaethedig Peter Black AC, os caiff ei basio, yn sicrhau bod trafodaethau rhwng perchnogion safleoedd cartrefi parc a pherchnogion cartrefi parc yn cael eu monitro'n annibynnol ac y bydd yna system o gyflafareddu i berchnogion sydd ag achos i bryderu am y prosesau gweinyddol.
Rhestrodd Ms Evans y problemau cyffredin sydd yn gwynebu dioddefwyr clefydau prin: "Mynediad i ddiagnosis amserol, diagnosis anghywir, cael gafal ar wybodaeth, cydlynu gofal gwael, problemau trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, cael hi'n anodd dod o hyd at driniaeth, diffyg ymchwil ac anghydraddoldeb o ddarpariaethau".
应用推荐