Wrth arwain y ddadl, dywedodd Mark Isherwood AC mai ond 2% o'r rhai sy'n gymwys i gael y taliadau uniongyrchol sy'n eu cael nhw.
Wrth gyfrannu at y ddadl fe wnaeth Eluned Parrott AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol alw ar y llywodraeth i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
Tynnodd yr aelod Llafur Christine Chapman sylw at y gostyngiad yn nifer y plant sy'n chwarae tu fas a galwodd ar y llywodraeth i wneud mwy i wneud i rieni deimlo ei bod hi'n ddiogel i adael eu plant i fynd allan i chwarae.
Lleisiodd ei bryder, wrth arwain dadl ei blaid, ynghylch y cynnydd parhaus ym mhrisiau tai Cymru sy'n ei gwneud hi'n anos fyth i'r rheini sy'n prynu am y tro cyntaf i gamu ar yr ysgol dai.
Galwodd William Powell AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol am gydnabyddiaeth i Fargen Werdd Llywodraeth y DU, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmniau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed a chynnig cymorth i bobl i wneud gwelliannau i'w cartrefi fydd yn cyfrannu at ostwng prisiau tannwydd.
Mae'r fformiwla Barnett yn pennu pa gyfran o wariant llywodraeth y DU sy'n mynd i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Bu Ms Griffiths yn gwneud datganiad ar y dystiolaeth sy'n amlinellu'r achos dros ad-drefnu'r NHS yng Nghymru, ar 10 Gorffennaf 2012.
Serch hynny fe wnaeth Ms Williams alw ar y llywodraeth i gydnabod pwysigrwydd y gwaith sy'n cymryd lle yn ysbyty Cancr Felindre.
Dywedodd Mr Lewis wrth ACau bod y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn gostwng wrth symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, yn enwedig merched.
"Mae'n wir bod y nifer sy'n defnyddio'r taliadau'n isel, " meddai.
Fe ymatebodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd i gwestiynau AC Cwm Cynon, Christine Chapman am y gwaith sy'n cael ei wneud gan lywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig.
Heriwyd y ddau i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y system newydd ar hen un os yw'r teulu sy'n parhau i gael y gair olaf.
Mae llywodraeth Cymru yn ystyried y manteision o greu asiantaeth fabwysiadu genedlaethol, syniad sy'n cael ei gefnogi gan y ddwy elusen.
Lleisiodd yr AC Ceidwadol Russell George bryder y byddai'r gyllideb sy'n cael ei roi i'r corff newydd yn llai na chyllideb y tri chorff annibynnol.
Bu Plaid Cymru Gareth Jones AC yn dadlau ei fod yn "gamgymeriad i wrthod y gwaith da sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i atal llifogydd".
Wrth ymateb i gwestiwn gan AC Llafur Rhodri Morgan ar wrthwynebiad i'r iaith, dywedodd Mr Bernat nad oedd llawer o wrthwynebiad ymhlith y rhai nad sy'n siarad Catalaneg.
Diben y bwrdd, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o amryw o wasanaethau a sectorau ar draws Cymru, yw rhoi arweiniad a phennu camau priodol i hwyluso arbedion a gwelliannau yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd ateb cwestiynau ar wella'r broses o ddyrannu grantiau, y symiau ariannol canlyniadol i Gymru sy'n deillio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain a dyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cymru yw un o sylfaenwyr Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, sy'n cynrychioli dros 600 o lywodraethau is-genedlaethol o fewn y Cenhedloedd Unedig ar faterion cynaliadwyedd.
Canolbwyntiodd Bethan Jenkins AC yn ei chyfraniad hi ar y nifer siomedig o ferched sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, a galwodd am well cydweithio rhwng ysgolion a chlybiau lleol.
Mae BBC Cymru wedi datgelu y gallai adroddiad academaidd annibynnol sy'n amlinellu'r newidiadau i'r NHS, fod wedi cael ei ddylanwadu gan gysylltiadau rhwng yr awdur ac uwch swyddogion y llywodraeth.
Tynnodd Simon Thomas AC Plaid Cymru sylw at y ffaith fod y nifer o fyfyrwyr o Loegr sy'n dewis astudio yng Nghymru a thalu'r pris yn llawn eisoes yn llai na'r disgwyl.
Esboniodd Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bod lefelau staff nyrsys ar fin cynyddu, gan eu bod yn y broses o recriwtio saith nyrs sy'n arbenigo mewn gofal newyddenedigol i'r bwrdd iechyd.
Wrth arwain dadl ei blaid fe leisiodd Mr Isherwood bryder am ofal presennol y gwasanaeth iechyd i gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yng Nghymru.
Dywedodd gweision sifil sy'n gyfrifol am weithredu'r rhaglen wrth y pwyllgor bod y rhaglen yn cymryd agwedd fwy strategol at fuddsoddi cyfalaf nag o'r blaen.
Dywedodd hefyd fod croeso i unrhyw ysgolion sy'n credu eu bod wedi eu gosod yn y band cywir gysylltu, a byddai ei swyddogion yn asesu'r penderfyniad maes o law.
Serch hynny, mae Comisiwn Holtham a sefydlwyd yn 2008 wedi argymell y dylai fformiwla Barnett gael ei ddisodli gan fformiwla sy'n seiliedig ar angen, yn hytrach na phoblogaeth.
Serch hynny, cytunodd Mr Lewis gydag egwyddor y cynnig a thynnodd sylw at fentrau'r llywodraeth sy'n ceisio hybu'r economi ar draws Cymru.
Dywedodd Mr Deakin fod clybiau a'r cyfryngau, yn benodol S4C, sy'n darlledu gemau'r uwch gynghrair, erioed wedi derbyn y syniad.
Ar y mater o gronfeydd cydlyniant Ewropeaidd, dywedodd Mr Jones fod penderfyniadau allweddol sy'n ymwneud ag amodau'r cyllid o 2013 ymlaen yn yr arfaeth.
应用推荐