Fe ofynodd Ken Skates, AC De Clwyd, a oedd Ms Hart yn cytuno bod angen diffiniad mwy tynn o'r term 'menter gymdeithasol' a gofynnodd a fyddai'n ystyried sut y gallai'r llywodraeth gefnogi mentrau o'r math gyda chyllid cychwynnol a chyfalaf.
Dadleuodd Edwina Hart AC "fod y dirywiad cymharol mewn perfformiad yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd yn ganlyniad o'r dirywiad a welwyd yn y Deyrnas Unedig mewn termau ystadegol".
Mae Horizon 2020 yn rhaglen ymchwil a datblygu Ewropeaidd a'r bwriad yw ffurfio rhan allweddol o'r ymgyrch gyffredinol i greu twf a swyddi newydd ar draws Ewrop.
Bu Angela Burns AC, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn galw am gyflwyno system gwregys las, lle mae'r datblygiad o eiddo preswyl ar dir ger afonydd, arfordiroedd a llynnoedd mewn risg uchel o lifogydd ei wahardd.
Clefydau prin yw heintiau sy'n effeithio ar ganran fach o'r boblogaeth megis haemoffilia a nychdod cyhyrol.
Roedd yna alwadau i wella'r system o gadw cofnodion, a'i gwneud yn haws i ffermwyr.
Hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor oedd cynrychiolwyr o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Associated British Ports a Stena Line.
Rhybuddiodd Dr Alistair Davies o'r llywodraeth fod "cymhlethdod rheolau cyfrifo, y lefel o risg a'r amserlen wedi bod yn rhwystr i SMEs".
Dywedodd hefyd fod croeso i unrhyw ysgolion sy'n credu eu bod wedi eu gosod yn y band cywir gysylltu, a byddai ei swyddogion yn asesu'r penderfyniad maes o law.
Mae myfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn gymwys i gael y cymhorthdal er bod disgwyl i fyfyrwyr o Loegr, yr Alban a gogledd Iwerddon dalu'r pris yn llawn.
Bu'r ACau yn holi Mr Jones ar bynciau amrywiol gan gynnwys lleddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd a dyfodol statws Llyn Padarn fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mae Cwysi hefyd yn cynnal noson yn y Foelas, Pentrefoelas, ar nos Lun, Hydref 15 am 7.30 o'r gloch, lle bydd cyfle i weld y lluniau digidol a chyfle i ffermwyr drafod ymysg ei gilydd o flaen llaw.
Mae ystadegau'r llywodraeth ar gyfer 2008 yn dangos bod 66.7% o academyddion, 63.7% o weithwyr a 50% o ddefnyddwyr neu brynwyr yn siarad Catalan.
Rhybuddiodd Darren Millar AC bod y ffigyrau isel o bobl sydd wedi derbyn y brechiad ffliw, y cam ddefnyddio o unedau brys a'r cyfyngiadau ariannol i gyd yn cyfrannu at y "argyfwng".
Mae'r fformiwla Barnett yn pennu pa gyfran o wariant llywodraeth y DU sy'n mynd i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Roedd fodd bynnag, yn croesawu'r defnydd o dechnoleg ddigidol a linc fideo gan y gallai alluogi cynghorwyr i gyfrannu o gartref os oedd angen.
Pwysleisiodd AC Plaid Cymru Elin Jones bwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng y lluoedd arfog a'r gwasanaeth iechyd pan fo milwyr yn cael eu rhyddhau o'u cyfrifoldebau.
Disgrifiodd Huw Vaughan Thomas - Prif Archwilydd newydd Cymru - y datgeliadau'n "embaras" a chyhoeddwyd diwygiad o sut mae'r corff gwarchod gwariant cyhoeddus yn cael ei rhedeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed blynyddol o leihau allyriadau 3% er mwyn mynd i'r afael a'r newid yn yr hinsawdd.
Fe wnaeth adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru nodi fod swyddogion wedi methu ag ymateb i rybuddion dros gyfnod o ddeng mlynedd, a dyma'r 19 adroddiad i gam reoli grantiau dywedodd Mr Davies wrth ACau.
Fe wnaeth AC Gogledd Caerdydd Julie Morgan ddadlau fod potential i ddatblygu mwy o bwerau i'r cynulliad, megis cyfiawnder ieuenctid, a dywedodd bod angen trafodaeth fanwl am y posibilrwydd o ddatganoli gwasanaeth yr heddlu.
应用推荐