-
Dywedodd Carl Sargeant AC wrth aelodau'r pwyllgor deisebau nad oedd hi'n fwriad gan lywodraeth Cymru i wneud hynny'n orfodol ar hyn o bryd ac mai penderfyniad i awdurdodau lleol ydoedd.
BBC: Pwyllgor deisebau
-
Dywedodd Ms Sandbach mai dim ond o ganlyniad i'r dirywiad economaidd y mae'n bosibl cyflawni'r targed o 3% o ostyngiad blynyddol.
BBC: Dadl ar y newid yn yr hinsawdd
-
Wrth arwain y ddadl, dywedodd Mark Isherwood AC mai ond 2% o'r rhai sy'n gymwys i gael y taliadau uniongyrchol sy'n eu cael nhw.
BBC: Dadl y Ceidwadwyr
-
Esboniodd Ms Jones mai ond adeiladu dros 30 metr o uchder sy'n gorfod cael systemau awtomatig ar hyn o bryd, ond ei bod hi'n awyddus i orfodi tai newydd i gael y systemau hyn hefyd.
BBC: Y cynulliad
-
Dyma'r cynnig cyntaf o ddiffyg hyder i gael ei gyflwyno ers etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2011.
BBC: Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol
-
Dywedodd Mr Martin mai "diogelwch a chynaliadwyedd" ydi'r prif ystyriaethau sydd yn cymryd eu sylw fel rhan o'r broses ymgynghori.
BBC: Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:Sesiwn y bore