-
Fe nododd yr AC Ceidwadol Antoinette Sandbach na fyddai 136, 000 o gartrefi yn cael eu heffeithio gan y newidiadau a bod 40, 000 o dai heb ddigon o breswylwyr yng Nghymru.
BBC: Dadl ar ddiwygio budd-dal tai
-
Os na fydd llywodraeth Cymru yn bodloni'r gofynion caeth a bennir gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rheoli arian yr Undeb Ewropeaidd yn effeithiol, mae perygl y caiff llywodraeth Cymru ei chosbi'n ariannol.
BBC: Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
-
Serch hynny, mae Comisiwn Holtham a sefydlwyd yn 2008 wedi argymell y dylai fformiwla Barnett gael ei ddisodli gan fformiwla sy'n seiliedig ar angen, yn hytrach na phoblogaeth.
BBC: Cwestiynau Cyllid
-
Wrth gyflwyno'r cynnig fe ddywedodd yr AC Simon Thomas y gallai Cymru gael ei brandio "yn fwy effeithiol" a bod gwell gan bron i 60% o drigolion Cymru y parth '.cymru' yn hytrach na '.wales', er bod busnesau yn dweud fel arall.
BBC: Dadl Plaid Cymru
-
Dywedodd Ms Thomas AC bod 86 y cant o gartrefi gofal yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan y sector breifat a mynnodd bod llywodraeth Cymru yn awyddus i ostwng y ffigur hwnnw ond rhybuddiodd "Na fyddai'n digwydd dros nos".
BBC: Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol