Fe wnaeth y gweinidog hefyd ateb cwestiynau ar wella'r broses o ddyrannu grantiau, y symiau ariannol canlyniadol i Gymru sy'n deillio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain a dyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Amcan y Bil yw galluogi'r llywodraeth, ar ran y wasanaeth iechyd yng Nghymru, i adennill costau gofal a thriniaethau meddygol sydd wedi cael eu darparu i gleifion sy'n dioddef clefyd Asbestos.
Lleisiodd ei bryder, wrth arwain dadl ei blaid, ynghylch y cynnydd parhaus ym mhrisiau tai Cymru sy'n ei gwneud hi'n anos fyth i'r rheini sy'n prynu am y tro cyntaf i gamu ar yr ysgol dai.
Wrth arwain y ddadl, dywedodd Mark Isherwood AC mai ond 2% o'r rhai sy'n gymwys i gael y taliadau uniongyrchol sy'n eu cael nhw.
Dywedodd hefyd fod croeso i unrhyw ysgolion sy'n credu eu bod wedi eu gosod yn y band cywir gysylltu, a byddai ei swyddogion yn asesu'r penderfyniad maes o law.
"Mae'r gyllideb wedi ei gosod yn barod ar gyfer 80% o fy nghyfrifoldebau i a dyw e ddim yn newid o flwyddyn i flwyddyn fel sy'n digwydd gyda rhai cyllidebau domestig, " esboniodd.
Bu Plaid Cymru Gareth Jones AC yn dadlau ei fod yn "gamgymeriad i wrthod y gwaith da sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i atal llifogydd".
Galwodd William Powell AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol am gydnabyddiaeth i Fargen Werdd Llywodraeth y DU, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmniau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed a chynnig cymorth i bobl i wneud gwelliannau i'w cartrefi fydd yn cyfrannu at ostwng prisiau tannwydd.
Mae hynny'n sicrhau bod hanner yr eiddo ar rent mewn ardal benodol yn fforddiadwy i'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau.
Daeth negeseuon e-bost i'r amlwg sy'n dangos bod yr Athro Longley wedi gofyn wrth weision sifil am "ffeithiau diamheuol" pan oedd yn ysgrifennu'r adroddiad.
Wrth arwain dadl ei blaid fe leisiodd Mr Isherwood bryder am ofal presennol y gwasanaeth iechyd i gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yng Nghymru.
Heriwyd y ddau i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y system newydd ar hen un os yw'r teulu sy'n parhau i gael y gair olaf.
Ers i'r BMI baby adael dim ond Vueling, cwmni hedfan sy'n cynnig teithiau rhad i dri lleoliad yn Sbaen, mae'r maes awyr wedi ei ddenu.
Serch hynny fe wnaeth Ms Williams alw ar y llywodraeth i gydnabod pwysigrwydd y gwaith sy'n cymryd lle yn ysbyty Cancr Felindre.
Nodwyd yr angen i gael mwy o nyrsys sy'n arbenigo mewn gofal newyddanedigol mewn adolygiad capasiti, a chafodd bwrdd Betsi Cadwaladr ei nodi gan yr elusen Bliss mewn cyhoeddiad oedd yn amlinellu diffyg gofal newyddenedigol.
"Bydd cyflwyno'r SQuID yn ein cynorthwyo ni i leihau'r rhwystrau sy'n wynebu cyflenwyr llai er mwyn sicrhau fod holl fusnesau Cymru, o bob maint yn cael mynediad i gontractau sector gyhoeddus, " dywedodd Ms Hutt wrth ACau.
Wrth gyfrannu at y ddadl fe wnaeth Eluned Parrott AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol alw ar y llywodraeth i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
Fe ymatebodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd i gwestiynau AC Cwm Cynon, Christine Chapman am y gwaith sy'n cael ei wneud gan lywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig.
Mae'r fformiwla Barnett yn pennu pa gyfran o wariant llywodraeth y DU sy'n mynd i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Lleisiodd yr AC Ceidwadol Russell George bryder y byddai'r gyllideb sy'n cael ei roi i'r corff newydd yn llai na chyllideb y tri chorff annibynnol.
Mae BBC Cymru wedi datgelu y gallai adroddiad academaidd annibynnol sy'n amlinellu'r newidiadau i'r NHS, fod wedi cael ei ddylanwadu gan gysylltiadau rhwng yr awdur ac uwch swyddogion y llywodraeth.
Esboniodd Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bod lefelau staff nyrsys ar fin cynyddu, gan eu bod yn y broses o recriwtio saith nyrs sy'n arbenigo mewn gofal newyddenedigol i'r bwrdd iechyd.
Tynnodd yr aelod Llafur Christine Chapman sylw at y gostyngiad yn nifer y plant sy'n chwarae tu fas a galwodd ar y llywodraeth i wneud mwy i wneud i rieni deimlo ei bod hi'n ddiogel i adael eu plant i fynd allan i chwarae.
Maen nhw'n galw ar lywodraeth Cymru i lunio cynllun uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu cartrefi pobl sy'n byw mewn tlodi tannwydd.
Wrth ymateb i gwestiwn gan AC Llafur Rhodri Morgan ar wrthwynebiad i'r iaith, dywedodd Mr Bernat nad oedd llawer o wrthwynebiad ymhlith y rhai nad sy'n siarad Catalaneg.
Dywedodd Mr Lewis wrth ACau bod y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn gostwng wrth symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, yn enwedig merched.
Er mwyn lliniaru ar y gost ychwanegol o gynnal arwerthiant o'r fath, mae pwyllgor lleol y Gymdeithas wedi penderfynu uno arwerthiannau'r ddwy sir, sef Dinbych ac Arfon (sy'n cwmpasu Sir Gonwy, rhan o Sir Ddinbych a rhan dwyreiniol o Wynedd) i gynnal un arwerthiant fawr.
Esboniodd Ms Jones mai ond adeiladu dros 30 metr o uchder sy'n gorfod cael systemau awtomatig ar hyn o bryd, ond ei bod hi'n awyddus i orfodi tai newydd i gael y systemau hyn hefyd.
应用推荐