Mae cefnogaeth drawsbleidiol i newid y system ariannu wrth i'r pleidiau gytuno nag yw'r setliad ariannol presennol yn addas i'r diben.
Dechreuwyd Prosiect y Ddraig Goch yn 2000, er mwyn moderneiddio cyfleusterau'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan drwy adeiladu canolfan i atgyweirio awyrennau'r Llu Awyr a pharc busnes i'r diwydiant awyr-ofod.
Roedd Byron Davies, hefyd yn AC y Ceidwadwyr yn yr ardal, eisiau i'r llywodraeth sicrhau bod digon o staff i wireddu'r cynlluniau newydd.
Fe fyddai'r bil hefyd yn berthnasol i gleifion sydd wedi cael dyfarniad neu setliad sifil yn y llys neu'r tu allan i'r llys gan gyflogwr neu gorff arall.
Esboniodd y Prif Swyddog Milfeddygol y byddai tagio yn syniad da, ond "dydy'r dechnoleg ddim yn bodoli i wneud hyn heb roi anesthetig i'r mochyn daear", ac efallai byddai angen "trwydded o'r Swyddfa Gartref i wneud hyn hefyd".
Nododd y Bont-Faen fel enghraifft o stryd fawr ffyniannus sydd wedi llwyddo i oresgyn yn erbyn sialensiau'r canolfannau tu allan i'r dre a siopa ar-lein.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd ateb cwestiynau ar wella'r broses o ddyrannu grantiau, y symiau ariannol canlyniadol i Gymru sy'n deillio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain a dyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Mae BBC Cymru wedi datgelu y gallai adroddiad academaidd annibynnol sy'n amlinellu'r newidiadau i'r NHS, fod wedi cael ei ddylanwadu gan gysylltiadau rhwng yr awdur ac uwch swyddogion y llywodraeth.
Dywedodd Mr Thomas fod yna ddiffyg cofnodion digonol yn rhoi'r awdurdod i'r fath hyfforddiant ac na fyddai cyllidebau'r cwmni yn y dyfodol yn cynnwys "gwastraff o'r fath mewn costau hyfforddi".
Fe gadarnhaodd Mr Davies fod y llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector preifat i'r economi a dywedodd bod ymgynghoriad busnes penodol yn cael ei lansio wythnos nesaf i edrych ar sut mae'r llywodraeth yn gallu cyfoethogi ymwneud y gymuned fusnes.
Gofynnodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar AC, oes oedd hi'n briodol i'r archwilwyr parhau i archwilio cyfrifon SAC.
Dywedodd Mr Lewis wrth ACau bod y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn gostwng wrth symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, yn enwedig merched.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd bwysleisio bod y penderfyniad i gofnodi, darlledu neu gynnig ffrwd byw o holl gyfarfodydd y cyngor sydd ar agor i'r cyhoedd eto i gael ei wneud gan yr awdurdodau unigol.
Ers i'r BMI baby adael dim ond Vueling, cwmni hedfan sy'n cynnig teithiau rhad i dri lleoliad yn Sbaen, mae'r maes awyr wedi ei ddenu.
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth bod angen gwella cyfathrebu gyda'r cyhoedd er mwyn i'r strategaeth genedlaethol fod yn effeithiol.
Pwysleisiodd y gweinidog fod y cynllun yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wella'r economi, i ddiogelu a gwella gwasanaethau rheng flaen a diogelu'r mwyaf gwan mewn cymdeithas.
Dywedodd y gweinidog y byddai'r mesur gwasanaethau cymdeithasol yn ymateb i'r mwyafrif o bryderon yr aelodau.
Lleisiodd yr AC Ceidwadol Russell George bryder y byddai'r gyllideb sy'n cael ei roi i'r corff newydd yn llai na chyllideb y tri chorff annibynnol.
Mae'r ddogfen yn cynnwys syniadau ar gyfer ffyrdd i ddatblygu potensial 'gwyrdd' y Cymoedd er mwyn ceisio rhoi hwb economaidd i'r ardal tra'n sicrhau bod yr amgylchedd ddim yn cael ei hesgeuluso.
Mae adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw at safonau gwael toiledau plant ysgol ac fe holodd AC Plaid Cymru Chris Franks am fwriadau'r bwrdd i wella'r sefyllfa.
Lleisiodd ei bryder, wrth arwain dadl ei blaid, ynghylch y cynnydd parhaus ym mhrisiau tai Cymru sy'n ei gwneud hi'n anos fyth i'r rheini sy'n prynu am y tro cyntaf i gamu ar yr ysgol dai.
Mae'r llywodraeth wedi mynnu bod adroddiad yr Athro Longley wedi'i gomisiynu gan brif weithredwyr y byrddau iechyd lleol a nad oedd ganddynt unrhyw ddylanwad arno ac eithrio i ddarparu gwybodaeth i'r awdur.
Wrth ymateb i'r ddadl pwysleisiodd y Gweinidog Adfywio Huw Lewis ymrwymiad llywodraeth Cymru i adfywio trefi a dinasoedd wrth iddo ddadlau fod dogfen ymgynghori 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' yn rhoi pwyslais cryf ar adfywio canol trefi.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod angen mwy o adnoddau ar gyfer diogelwch bwyd a bod angen i gynhyrchwyr bwyd wneud mwy i reoli diogelwch bwyd.
Mae'r fformiwla Barnett yn pennu pa gyfran o wariant llywodraeth y DU sy'n mynd i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Fe wnaeth y Gweinidog Treftadaeth hefyd roi tystiolaeth i'r pwyllgor a phwysleisiodd fod y mesur yn "bellgyrhaeddol" ac yn "gam ymlaen i gynyddu defnydd y Gymraeg ac i ehangu statws yr iaith".
Roedd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 10 Ionawr 2013.
Roedd y pwyllgor cynaliadwyedd yn cynnal ymchwiliad i'r ddarpariaeth o randiroedd yng Nghymru, ar 18 Mawrth 2010.
Croesawodd hefyd y buddsoddiad ychwanegol i gynlluniau prentisiaid a oedd yn credu byddai'n rhoi hwb angenrheidiol i'r economi.
Hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor oedd cynrychiolwyr o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Associated British Ports a Stena Line.
应用推荐