-
Galwodd Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru ar y llywodraeth i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru.
BBC: Dadl ar wasanaethau cyhoeddus
-
Bydd fersiwn wedi ei amlinellu o'r Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2012, gyda fersiwn llawn yn yr hydref a diweddariadau bob chwarter wedi hynny.
BBC: Datganiad cyllid
-
Bu'r ACau yn holi Mr Jones ar bynciau amrywiol gan gynnwys lleddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd a dyfodol statws Llyn Padarn fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
BBC: Cwestiynau'r prif wenidog
-
Bu AC Arfon Alun Ffred Jones yn dadlau fod yn rhaid i Gymru ddarganfod ffyrdd gwell o godi arian ar gyfer prosiectau cyfalaf fel bo busnesau yn medru cyflogi staff a datblygu sgiliau pobl ifanc.
BBC: Dadl ar y gyllideb ddrafft
-
Bu'r AC Ceidwadol Russell George yn dadlau y byddai llais cryfach gan Gymru wrth gydweithio gyda llywodraeth y DU a phwysleisiodd fod rhaid sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gael y setliad byd-eang gorau.
BBC: Dadl Plaid Cymru
-
Fe wnaeth y gweinidog hefyd ateb cwestiynau ar wella'r broses o ddyrannu grantiau, y symiau ariannol canlyniadol i Gymru sy'n deillio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain a dyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau.
BBC: Cwestiynau cyllid
-
Yn y ddadl ar 14 Mawrth 2012, fe nododd Mr Jones fod dau draean o bobl yn 2012 o blaid pwerau amrywio trethi i Gymru a bod 28% yn ystyried y dylai'r cynulliad fod yn gyfrifol am yr holl drethi.
BBC: Dadl Plaid Cymru