Ychwanegodd fod y rhaglen llywodraethu yn enghraifft o'r llywodraeth yn gweithredu ar ei haddewidion.
Fe sicrhaodd fod y mater yn cael sylw penodol mewn ysgolion ar draws Cymru.
Bu AC Aberconwy Janet Finch-Saunders yn dadlau fod y newidiadau arfaethedig yn deg a synhwyrol.
Cyhoeddodd Jonathan Ford fod CBC hefyd yn ystyried cap ar gyflog chwaraewyr er mwyn gwneud arbedion ariannol.
Fe ddywedodd Mr Sargeant fod 500 o barthau oedd eisoes wedi'u gwella o amgylch ysgolion yng Nghymru.
Esboniodd fod ei swyddogion wedi cael gafael ar wybodaeth gan amryw o ffynonellau gan gynnwys llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Davies fod gan y llywodraeth ychydig iawn o dargedau ym meysydd iechyd, yr economi ac addysg.
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth bod angen gwella cyfathrebu gyda'r cyhoedd er mwyn i'r strategaeth genedlaethol fod yn effeithiol.
Rhybuddiodd Ms Winnard fod angen ystyried dyfodol amddiffynfeydd arfordirol ym Mhorth, y Rhondda, lle darodd llifogydd yn ddiweddar.
Ond, dywedodd yr Athro Longley fod "nifer o negeseuon e-bost wedi eu cymryd allan o'u cyd-destun a'u troi".
Dywedodd fod na "broblemau difrifol" gyda chyllidebau iechyd a gofynnodd "pa obaith sydd na i fyrddau iechyd lleol lwyddo"?
Ychwanegodd fod angen symleiddio gwasanaethau cyhoeddus ac y byddai sgil effeithiau hynny yn sicrhau gwasanaethau gwell i bobl leol.
Dywedodd Mr Sargeant fod "arweinyddiaeth gref mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru" yn sylfaenol.
Dywedodd AC De Caerdydd a Penarth fod tua 12, 000 o gartrefi mewn perygl o ddioddef llifogydd oherwydd erydu arfordirol.
Yn ystod y pwyllgor, fe wnaeth yr economegydd iechyd Marcus Longley hefyd wrthod honiadau ei fod wedi gorliwio'r ddogfen.
Dywedodd Mr Deakin fod clybiau a'r cyfryngau, yn benodol S4C, sy'n darlledu gemau'r uwch gynghrair, erioed wedi derbyn y syniad.
Dywedodd Ms Burns ei fod yn arwain at ormod o wrthdaro wrth iddo gael ei "ddehongli'n wahanol gan awdurdodau gwahanol".
Ychwanegodd serch hynny ei fod "yn gobeithio na fydd hi'n aeaf caled fel na bod rhaid rhoi'r cynllun ar waith".
Dywedodd Dr Harrington ei fod yn credu bod y bwrdd iechyd yn gwneud "gwelliannau gonest" tuag at gyrraedd ei thargedau safon.
Dywedodd fod llawer o dystiolaeth a oedd yn gyhoeddus, ond yn aml mae 'na wybodaeth sydd ddim yn cael ei gyhoeddi.
Yn ystod y pwyllgor, mynegodd Eluned Parrott AC bryder fod banciau yn benthyg llai i fusnesau yng Nghymru nag yn Lloegr.
Rhybuddiodd Dr Alistair Davies o'r llywodraeth fod "cymhlethdod rheolau cyfrifo, y lefel o risg a'r amserlen wedi bod yn rhwystr i SMEs".
Fe gadarnhaodd Mr Davies fod cynhadledd laeth yn cael ei chynnal ym mis Mehefin i drafod blaenoriaethau a chytuno ar ffordd ymlaen.
Eglurodd hefyd ei fod yn ystyried "y posibilrwydd o wahanol gyfraddau treth y cyngor mewn perthynas ag ail gartrefi ac eiddo gwag".
Mynnodd, na fyddai fod wedi gallu cwblhau'r gwaith heb y wybodaeth hon.
Tanlinellodd Dr Mark Drayton y broblem gyda unedau newydd-anedig yng Ngogledd Cymru a phwysleisiodd fod yna "broblemau recriwtio mawr" yn yr adrannau hynny.
Bu Rhodri Glyn Thomas AC yn dadlau fod angen gwell cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol a gwasanaethau argyfwng wrth siarad ar ran Plaid Cymru.
Codwyd y ffaith y dylai staff meddygol, yn enwedig bydwragedd, dderbyn hyfforddiant gwell ynghylch adnabod symptomau gall fod yn arwydd o risg farw-enedigaeth.
Ar y mater o gronfeydd cydlyniant Ewropeaidd, dywedodd Mr Jones fod penderfyniadau allweddol sy'n ymwneud ag amodau'r cyllid o 2013 ymlaen yn yr arfaeth.
Dywedodd Dr Phillip Dixon o Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr ei fod yn croesawu'r cynnydd bach yn y gyllideb, er gwaethaf y sefyllfa ariannol bresennol.
应用推荐