• Fe wnaeth Mr Jones dalu teyrnged i'r gwasanaethau brys a wnaeth helpu'r rheini a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar.

    BBC: Cwestiynau'r Prif Wenidog

  • Fe wnaeth y pwyllgor ystyried effaith debygol y dirwasgiad presennol a'r pwysau ar arian cyhoeddus, ar gymorth i fusnesau ac ar fuddsoddi mewn prosiectau mwy, fel ynni adnewyddadwy.

    BBC: Pwyllgor menter a dysgu

  • Fe wnaeth y Gweinidog Treftadaeth hefyd roi tystiolaeth i'r pwyllgor a phwysleisiodd fod y mesur yn "bellgyrhaeddol" ac yn "gam ymlaen i gynyddu defnydd y Gymraeg ac i ehangu statws yr iaith".

    BBC: Pwyllgor ar y mesur ar yr iaith Gymraeg

  • Fe gadarnhaodd Carl Sargeant AC ei fod yn gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a phartneriaid perthnasol i ddarparu dull holistig wrth ddatblygu gwasanaethau.

    BBC: Cwestiynau llywodraeth leol

  • Fe gadarnhaodd Mr Davies fod y llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector preifat i'r economi a dywedodd bod ymgynghoriad busnes penodol yn cael ei lansio wythnos nesaf i edrych ar sut mae'r llywodraeth yn gallu cyfoethogi ymwneud y gymuned fusnes.

    BBC: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

  • Fe wnaeth y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol hefyd ateb cwestiynau ar dryloywder mewn llywodraeth leol, Sgowtiaid Cymru a'r sector gwirfoddol.

    BBC: Cwestiynau cyfiawnder cymdeithasol

  • Fe wnaeth Carwyn Jones hefyd ateb cwestiynau ar addysg a safonau arholiadau, safonau llythrennedd yng Nghymru a'r Gemau Olympaidd yn 2012.

    BBC: Cwestiynau i'r prif weinidog

  • Ond fe ddywedodd y cwmni mai dyma'r argyfwng economaidd gwaethaf iddyn nhw ei weld ers blynyddoedd, a'u bod nhw'n bwriadu symud y gwaith o Feisgyn ger Llantrisant i Hwngari yn 2011.

    BBC: Datganiad ar Bosch

  • Fe wnaeth Mrs Hart hefyd ateb cwestiynau ar beiriannau gwerthu bwyd mewn ysbytai, maeth bwyd mewn ysbytai a chynlluniau'r llywodraeth i amddiffyn staff y gwasanaeth iechyd rhag trais.

    BBC: Cwestiynau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

  • Fe wnaeth AC Gorllewin De Cymru Peter Black ddadlau y dylai'r heddlu weithio gyda llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a phartneriaid eraill i ddarparu ymateb effeithiol i drosedd ac anrhefn.

    BBC: Dadl ar setliad yr heddlu

  • Fe ofynodd Ken Skates, AC De Clwyd, a oedd Ms Hart yn cytuno bod angen diffiniad mwy tynn o'r term 'menter gymdeithasol' a gofynnodd a fyddai'n ystyried sut y gallai'r llywodraeth gefnogi mentrau o'r math gyda chyllid cychwynnol a chyfalaf.

    BBC: Cwestiynau Busnes

  • Wrth gyflwyno'r cynnig fe ddywedodd yr AC Simon Thomas y gallai Cymru gael ei brandio "yn fwy effeithiol" a bod gwell gan bron i 60% o drigolion Cymru y parth '.cymru' yn hytrach na '.wales', er bod busnesau yn dweud fel arall.

    BBC: Dadl Plaid Cymru

$firstVoiceSent
- 来自原声例句
小调查
请问您想要如何调整此模块?

感谢您的反馈,我们会尽快进行适当修改!
进来说说原因吧 确定
小调查
请问您想要如何调整此模块?

感谢您的反馈,我们会尽快进行适当修改!
进来说说原因吧 确定