Fe wnaeth yr aelod Plaid Cymru Leanne Wood nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.
Wrth gyfrannu at y ddadl fe wnaeth Eluned Parrott AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol alw ar y llywodraeth i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
Fe fydd y grant ar gyfer darparu brecwast am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd yn cael ei drosglwyddo i ffrwd cyllideb cyffredinol cynghorau, er bod y mesur yn ceisio eu hamddiffyn rhag toriadau cyllid.
Dywedodd Ms Thomas ei bod yn disgwyl i gartrefi gofal gael eu "staffio yn briodol bob amser", ond yn y pen draw ei fod yn fater i bob cartref annibynnol.
Bydd egwyddorion cyffredinol y bil nawr yn cael eu hystyried gan bwyllgor cyn iddo gael ei gyflwyno i'r cynulliad.
Roedd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gwrando ar dystiolaeth yn ei ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru (UGC).
Lleisiodd yr AC Ceidwadol Russell George bryder y byddai'r gyllideb sy'n cael ei roi i'r corff newydd yn llai na chyllideb y tri chorff annibynnol.
Amlinellodd Gwenda Thomas AC ei chynllunio i ail-strwythuro'r broses fabwysiadu yng Nghymru drwy'r bil gwasanaethau cymdeithasol arfaethedig wrth iddi ateb cwestiynau gan aelodau'r pwyllgor iechyd.
Amlinellodd Alun Davies AC ei ymrwymiad i wneud cynllun Horizon 2020 yn ddeniadol i SMEs yn ystod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 27 Medi 2012.
Bu Plaid Cymru Gareth Jones AC yn dadlau ei fod yn "gamgymeriad i wrthod y gwaith da sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i atal llifogydd".
Bu Andrew RT Davies AC yn arwain y ddadl ar ran ei blaid ar fethiant llywodraeth Cymru i weithredu ei "rhaglen lywodraethu" ar 26 Medi 2012.
Tynnodd yr aelod Llafur Christine Chapman sylw at y gostyngiad yn nifer y plant sy'n chwarae tu fas a galwodd ar y llywodraeth i wneud mwy i wneud i rieni deimlo ei bod hi'n ddiogel i adael eu plant i fynd allan i chwarae.
Galwodd William Powell AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol am gydnabyddiaeth i Fargen Werdd Llywodraeth y DU, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmniau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed a chynnig cymorth i bobl i wneud gwelliannau i'w cartrefi fydd yn cyfrannu at ostwng prisiau tannwydd.
Fe gadarnhaodd Mr Davies fod y llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector preifat i'r economi a dywedodd bod ymgynghoriad busnes penodol yn cael ei lansio wythnos nesaf i edrych ar sut mae'r llywodraeth yn gallu cyfoethogi ymwneud y gymuned fusnes.
Bu Ms Randerson hefyd yn ail-ddatgan ei hawydd tymor-hir i weld cyfnewidfa stoc Gymreig yn cael ei sefydlu.
Bydd fersiwn wedi ei amlinellu o'r Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2012, gyda fersiwn llawn yn yr hydref a diweddariadau bob chwarter wedi hynny.
Fe ymatebodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd i gwestiynau AC Cwm Cynon, Christine Chapman am y gwaith sy'n cael ei wneud gan lywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig.
Dyma'r cynnig cyntaf o ddiffyg hyder i gael ei gyflwyno ers etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2011.
Yng Nghymru, mae dyfodol ansicr i dros 3300 o weithwyr y cwmni bwyd o'r Iseldiroedd yn dilyn cyhoeddi'r newyddion o'i bwriad i werthu ei safleoedd yma.
"Nid yw taliadau uniongyrchol yn gweddu i bob person anabl, rhaid i gyllid canolog i ofal cymdeithasol barhau hefyd, " meddai, gan dderbyn gwelliannau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gynnig ei blaid.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd bwysleisio bod y penderfyniad i gofnodi, darlledu neu gynnig ffrwd byw o holl gyfarfodydd y cyngor sydd ar agor i'r cyhoedd eto i gael ei wneud gan yr awdurdodau unigol.
Ond fe ddywedodd llefarydd Economi'r Ceidwadwyr David Melding ei fod wedi'i synnu nad oedd y llywodraeth wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio achub y swyddi ac i berswadio Bosch i gadw'r ffatri ar agor.
Mynegodd byrder ei bod hi'n annhebygol y bydd y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd ei tharged o ymateb i 65% o alwadau o fewn wyth munud dros y gaeaf os yw hi'n methu a gwneud hynny pan fo'r tywydd yn fwynach.
Dywedodd Yr Athro Derek Gallen y byddai hyfforddiant ar gyfer rhai arbenigaethau meddygol yn cael ei ddarparu ar lai o safleoedd yn y dyfodol, er mwyn i'r hyfforddiant gael ei ddarparu mewn ffordd briodol.
Esboniodd Niall Duffy o Flybe ei bod hi'n hi mond yn cymryd chwe wythnos i gwmni hafan ychwanegu taith arall gan ei fod yn un o'r busnesau mwyaf ymatebol.
Esboniodd Dr Davies mewn cyhoeddiad a roddwyd i'r pwyllgor, ei bod hi'n ymddangos bod "rhagdybiaeth o fewn asiantaethau gofal cymdeithasol, bod modd i blant ifanc sydd wedi dioddef caledi sylweddol, dderbyn y gofal gorau gan deulu mabwysiadol, oherwydd eu bod nhw'n ifanc".
Cafodd y cynnig o ddiffyg hyder yn Lesley Griffiths ei drechu o 29 pleidlais i 28.
Bu Ms Wood yn arwain y ddadl ar ddogfen ymgynghorol ei phlaid 'Cynllyn Gwyrdd i'r Cymoedd', ar 13 Mehefin 2012.
Fe gadarnhaodd Mr Davies fod cynhadledd laeth yn cael ei chynnal ym mis Mehefin i drafod blaenoriaethau a chytuno ar ffordd ymlaen.
应用推荐