Bu Ms Evans yn arwain y ddadl ar glefydau prin, ar 4 Gorffennaf 2012.
Roedd aelodau nifer o bleidiau yn siomedig na chawson nhw'r cyfle i ofyn cwestiwn brys ar y mater ar 20 Tachwedd 2012.
Roedd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y mesur arfaethedig ar yr iaith Gymraeg, ar 17 Mehefin 2010.
Bydd y pwyllgor hefyd yn derbyn cyflwyniad gan Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Alw Iechyd Cymru.
Bu Llywodraeth Cymru yn arwain y ddadl ar yr adroddiad blynyddol cyntaf ar y strategaeth newid yn yr hinsawdd ar 24 Ebrill 2012.
Bu Andrew RT Davies AC yn arwain y ddadl ar ran ei blaid ar fethiant llywodraeth Cymru i weithredu ei "rhaglen lywodraethu" ar 26 Medi 2012.
Atebodd Lesley Griffiths gwestiynau eraill ar bynciau megis Bwrdd Iechyd Betsi Cadawaladr, rhestrau aros ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a'r brechiad y frech goch ar gyfer plant.
Wrth ymateb i gais AC Delyn Sandy Mewies am ddiweddariad am ardal fenter Sir y Fflint, fe ddywed Ms Hart fod manylion pellach ar gael ar y wefan.
Pan gafodd ei holi ar gyfyngiadau'r gyllideb ar gyfer 2013-14, roedd Mr Davies yn hyderus y gallai ei adran weithredu ymrwymiadau llywodraeth Cymru gyda'r arian sydd ar gael.
Mae'r Comisiwn Brenhinol yn arolygu, cofnodi ac yn esbonio adeiladau ac archaeoleg, ac mae'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd ar-lein ac yn ei lyfrgell yn Aberystwyth.
Gwnaed y sylwad ganDr Eurwyn Wiliam , yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i bolisi'r llywodraeth ar yr amgylchedd hanesyddol, ar 11 Gorffennaf 2012.
Fe wnaeth y pwyllgor ystyried effaith debygol y dirwasgiad presennol a'r pwysau ar arian cyhoeddus, ar gymorth i fusnesau ac ar fuddsoddi mewn prosiectau mwy, fel ynni adnewyddadwy.
Gofynnodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Helen Mary Jones am sicrwydd na fydd y llywodraeth yn torri'r gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc.
Yn y ddadl ar ddiwygio budd-dal tai ar ddydd Mawrth, 13 Mawrth 2012, fe amlinellodd Huw Lewis AC effaith ehangach y newidiadau ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol a niferodd y digartref.
Roedd AC y Toriaid yn arwain y ddadl ar yr NHS yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gynnwys papur llywodraeth Cymru 'Law yn Llaw at Iechyd - Pam fod angen newid', ar 9 Mai 2012.
Dywedodd Ms Kirrane wrth aelodau'r pwyllgor fod angen wyth neonatolegwyr ar rota llawn er mwyn darparu lefel diogel o ofal, ond dim ond un ymgynghorydd sydd ar draws gogledd Cymru ar hyn o bryd.
"Ein busnes ni ydi hyfforddi ac addysgu doctoriaid, dydi hynny ddim wedi newid - ond dydyn ni ddim yn cyflawni hynny i'r safonau sydd ei hangen ar y cyngor meddygol ar hyn o bryd, " meddai.
Roedd Alun Davies AC yn gefnogol o gynnig Plaid Cymru ar 21 Tachwedd 2012 oedd yn galw ar y cynulliad i gydnabod pwysigrwydd cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y PAC a chronfeydd rhanbarthol.
Cynhaliwyd cyfarfod gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 2 Mai 2012 i gasglu tystiolaeth ar y bil rhoi organau.
Bydd CD-Rom o'r lluniau meheryn yn cael ei gynhyrchu, a fydd ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer darpar-brynwyr o flaen yr arwerthiant.
Mae'r rhyddhad ardrethi ar gyfer siopau elusen yn 80% ar hyn o bryd tra mae adeiladau gwag yn gorfod talu'r gyfradd lawn wedi tri mis o fod yn wag.
Bu'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwrando ar dystiolaeth gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain, ar 9 Chwefror 2012.
Clywodd y pwyllgor hefyd dystiolaeth ar raglen buddsoddi cyfalaf y llywodraeth, Ysgolion ar Gyfer y 21ain ganrif, a lansiwyd ym mis Mawrth 2009.
Fe esboniodd yr Athro Brian Morgan o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ar 29 Tachwedd 2012 ei fod yn edrych ar achosion o siopau elusen yn symud i adeiladau gwag ac yna ond yn defnyddio 2% o'r gwagle.
Mae saith parth menter wedi eu dynodi ar draws Cymru, a phob ardal yn canolbwyntio ar sector allweddol.
Bu'r ACau yn holi Mr Jones ar bynciau amrywiol gan gynnwys lleddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd a dyfodol statws Llyn Padarn fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Dywedodd Yr Athro Derek Gallen y byddai hyfforddiant ar gyfer rhai arbenigaethau meddygol yn cael ei ddarparu ar lai o safleoedd yn y dyfodol, er mwyn i'r hyfforddiant gael ei ddarparu mewn ffordd briodol.
Bu'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths yn arwain y ddadl ar ymchwil ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ar Mai 2012.
Galwodd Mr Elis-Thomas ar lywodraeth Cymru i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol ar gyfer cyfrannu at Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, Brasil ym mis Mehefin 2012.
Bu'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant yn gwneud datganiad ar ddarparu cymorth gyda'r dreth gyngor yng Nghymru, ar 22 Mai 2012.
应用推荐