Gwnaeth Jane Hutt AC y datganiad yn y siambr ar gyhoeddiad terfynol y bas-data gwybodaeth o gymwysterau cyflenwyr (SquID).
Yn y ddadl ar ddiwygio budd-dal tai ar ddydd Mawrth, 13 Mawrth 2012, fe amlinellodd Huw Lewis AC effaith ehangach y newidiadau ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol a niferodd y digartref.
Bu'r AC Ceidwadol Russell George yn dadlau y byddai llais cryfach gan Gymru wrth gydweithio gyda llywodraeth y DU a phwysleisiodd fod rhaid sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gael y setliad byd-eang gorau.
Gofynnodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Kirsty Williams AC pam bod cyn lleied o gynnydd wedi'i wneud i annog y sector nid-er-elw i fynd i mewn i'r farchnad, a gofynnodd pa dargedau - os o gwbl - oedd wedi'u gosod ar gyfer y dyfodol.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi cais gan Nominet i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir (ICANN) am y ddau enw parth lefel-uchaf.
Cymru yw un o sylfaenwyr Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, sy'n cynrychioli dros 600 o lywodraethau is-genedlaethol o fewn y Cenhedloedd Unedig ar faterion cynaliadwyedd.
Galwodd Mr Elis-Thomas ar lywodraeth Cymru i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol ar gyfer cyfrannu at Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, Brasil ym mis Mehefin 2012.
Pan gafodd ei holi ar gyfyngiadau'r gyllideb ar gyfer 2013-14, roedd Mr Davies yn hyderus y gallai ei adran weithredu ymrwymiadau llywodraeth Cymru gyda'r arian sydd ar gael.
Fe wnaeth Ms Hart hefyd ateb cwestiynau am roi ar waith amcanion y Strategaeth Iaith Gymraeg o fewn cyd-destun adfywio economaidd, trafodaethau gyda chwmni Tata Steel, polisi gwyddoniaeth y llywodraeth a mynediad i fand llydan.
Bu Ms Griffiths yn gwneud datganiad ar y dystiolaeth sy'n amlinellu'r achos dros ad-drefnu'r NHS yng Nghymru, ar 10 Gorffennaf 2012.
Atebodd y Dirprwy Weinidog Tai Joyce Watson AC nifer o gwestiynau am newidiadau arfaethedig llywodraeth glymblaid y DU i'r system budd-daliadau tai ar 2 Chwefror 2011.
Clywodd y pwyllgor iechyd am gynlluniau i newid y ffordd mae doctoriaid a deintyddion yn cael eu hyfforddi mewn sesiwn ar ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Ein busnes ni ydi hyfforddi ac addysgu doctoriaid, dydi hynny ddim wedi newid - ond dydyn ni ddim yn cyflawni hynny i'r safonau sydd ei hangen ar y cyngor meddygol ar hyn o bryd, " meddai.
Pwysleisiodd yr angen i werthfawrogi'r rhan fwyaf o'r gwaith da a wnaed yn y maes hwn, yn hytrach na chanolbwyntio yn unig ar yr enghreifftiau ynysig o gam-drin.
应用推荐