Mae Ms Hart yn gobeithio y bydd canlyniad y cais am enwau parth lefel-uchaf yn cael ei ddatgelu cyn diwedd y flwyddyn, er iddi rybuddio y gallai fod yn 2013 cyn i hynny ddigwydd.
Ar ran Plaid Cymru dywedodd Jocelyn Davies bod nifer o gynghorau wedi gwella'r ffordd y maen nhw'n sichrau gwerth am arian, ac awgrymodd y gellid arbed mwy o arian pe bai cynghorwyr, ac ymgeiswyr cyngor, yn cwyno llai am ei gilydd wrth yr Ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd CD-Rom o'r lluniau meheryn yn cael ei gynhyrchu, a fydd ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer darpar-brynwyr o flaen yr arwerthiant.
Roedd Ms Wood ymhlith nifer o ACau a heriodd llywodraeth Cymru am ei chefnogaeth o fusnesau bach yn ystod y sesiwn lawn ar 22 Chwefror 2012.
Fe heriodd y safbwynt hwn, gan ddweud ei fod yn gofidio am ddiffyg sgrinio problemau posib y gallai'r plentyn ddatblygu, wrth ddewis teulu mabwysiadol y plentyn.
Fe fydd y grant ar gyfer darparu brecwast am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd yn cael ei drosglwyddo i ffrwd cyllideb cyffredinol cynghorau, er bod y mesur yn ceisio eu hamddiffyn rhag toriadau cyllid.
Fe wnaeth Llefarydd Iechyd Plaid Cymru Simon Thomas godi ei bryderon am brinder y targedau yn natganiad y gweinidog.
Fe ddyfynnodd Joyce Watson, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Ian Arundale, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, sy'n disgrifio'r toriadau fel "trobwynt ar gyfer plismona yng nghanolbarth a gorllewin Cymru" ac sy'n dweud ei fod yn wirioneddol gofidio am sut fydd yn diogelu cymunedau.
Wrth gyfrannu i'r ddadl, dywedodd Rhodri Glyn Thomas, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei fod am weld gwasanaethau cynhwysfawr yr heddlu yn cael eu diogelu.
Galwodd William Powell AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol am gydnabyddiaeth i Fargen Werdd Llywodraeth y DU, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmniau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed a chynnig cymorth i bobl i wneud gwelliannau i'w cartrefi fydd yn cyfrannu at ostwng prisiau tannwydd.
Fe ofynnodd AC Gorllewin De Cymru Suzy Davies a Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru, gwestiynau am y Customs House, Port Talbot, ac wrth gydnabod cymaint oedd hyn yn ei olygu yn lleol, fe ddywedodd Mr Lewis ei fod yn credu bod y prosesau cywir wedi'u dilyn a bod hyn yn fater i Gyngor Nedd Port Talbot.
应用推荐