-
Bu Ms Griffiths yn gwneud datganiad ar y dystiolaeth sy'n amlinellu'r achos dros ad-drefnu'r NHS yng Nghymru, ar 10 Gorffennaf 2012.
BBC: Datganiad iechyd
-
Mewn cyfres o negeseuon e-bost, mae awdur yr adroddiad, sef yr Athro Marcus Longley, yn gofyn i weision sifil am "ffeithiau allweddol" i gefnogi'r achos dros newid.
BBC: Datganiad iechyd
-
Dywedodd yr Athro David Egan o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) fod perfformiad gwael Cymru yn yr OECD ar Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn achos pryder.
BBC: Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
-
Cytunodd Mr Jones, gan ddweud ei fod wedi annog gweinidog y DU i ailystyried a byddai'n gweithio'n agos gyda'i adran i brofi'r achos busnes ar gyfer trydaneiddio'r llinell yn llawn.
BBC: Cwestiwn brys ar drydaneiddio
-
Bydd bil arfaethedig Peter Black AC, os caiff ei basio, yn sicrhau bod trafodaethau rhwng perchnogion safleoedd cartrefi parc a pherchnogion cartrefi parc yn cael eu monitro'n annibynnol ac y bydd yna system o gyflafareddu i berchnogion sydd ag achos i bryderu am y prosesau gweinyddol.
BBC: Dadl ar fil arfaethedig ynghylch cartrefi mewn parciau