Dywedodd Carwyn Jones AC wrth aelodau'r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol ar 23 Tachwedd 2010 bod cyfradd treth isel Iwerddon "yn anodd ar gyfer Cymru".
Dywedodd Mr Thomas fod yna ddiffyg cofnodion digonol yn rhoi'r awdurdod i'r fath hyfforddiant ac na fyddai cyllidebau'r cwmni yn y dyfodol yn cynnwys "gwastraff o'r fath mewn costau hyfforddi".
Mae'r Comisiwn Brenhinol yn arolygu, cofnodi ac yn esbonio adeiladau ac archaeoleg, ac mae'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd ar-lein ac yn ei lyfrgell yn Aberystwyth.
Wrth ymateb dywedodd Peter Black AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig nad oedd yn gwerthfawrogi naws ei haraith, oedd meddai, wedi'i seilio ar "hanner y gwir".
Dywedodd ei bod yn ddogfen ar gyfer maniffesto Plaid Cymru yn etholiad y cynulliad yn 2011 ac etholiadau'r cyngor yn 2012, a bod bobl Cymru wedi'i gwrthod "ddwy waith".
Wrth gyfrannu at y ddadl fe wnaeth Eluned Parrott AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol alw ar y llywodraeth i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
Bu'r AC Ceidwadol Russell George yn dadlau y byddai llais cryfach gan Gymru wrth gydweithio gyda llywodraeth y DU a phwysleisiodd fod rhaid sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gael y setliad byd-eang gorau.
Fe wnaeth Ms Griffiths ddiolch i fudiadau iechyd, sefydliadau addysgol ac aelodau'r cyhoedd am eu cymorth wrth ddatblygu'r fframwaith a dywedodd y byddai'n gofyn i swyddogion ystyried sylwadau ACau wrth baratoi'r fersiwn derfynol sydd i'w chyhoeddi fis Mai.
Esboniodd y Prif Swyddog Milfeddygol y byddai tagio yn syniad da, ond "dydy'r dechnoleg ddim yn bodoli i wneud hyn heb roi anesthetig i'r mochyn daear", ac efallai byddai angen "trwydded o'r Swyddfa Gartref i wneud hyn hefyd".
Dywedodd Gwenda Thomas AC y byddai'r fforymau diogelu yn mynd rhyw ffordd at gyflawni hynny.
Bu llywodraeth Cymru yn arwain y ddadl ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn amlinellu'r datblygiadau sydd wedi cael eu gwneud hyd yma.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones ei bod yn "siomedig" gyda'r datganiad ac fe wnaeth hi barhau i gwestiynu annibyniaeth yr adroddiad.
Wrth ymateb, dywedodd Geoff Lang eu bod nhw'n dilyn canllawiau'r llywodraeth ac yn awyddus i sicrhau fod eu proses nhw o ymgynghori yn gadarn.
Fe wnaeth John Griffiths AC sicrhau aelodau'r pwyllgor fod trefniadau gwaith yn eu lle i sicrhau na fydd safonau'r gwasanaethau'n gostwng wrth gyflwyno'r corff newydd.
Dywedodd Carl Sargeant AC wrth aelodau'r pwyllgor deisebau nad oedd hi'n fwriad gan lywodraeth Cymru i wneud hynny'n orfodol ar hyn o bryd ac mai penderfyniad i awdurdodau lleol ydoedd.
Fe wnaeth AC y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott AC hefyd groesawu'r cyfle i ddadlau gweledigaeth Ms Wood ar gyfer y cymoedd, ond pwysleisiodd nad oedd gan y ddogfen "yr holl atebion".
Mae'r bil arfaethedig wedi ei gefnogi gan Trades Union Congress Cymru, ac undebau llafur Unite a'r GMB.
Mae'r rhaglen yn amlinellu blaenoriaethau Gweinidogion Cymreig ac yn rhagflaenu Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru'r wythnos nesaf.
Roedd llefarydd tai Plaid Cymru Llyr Huws Griffiths AC yn feirniadol o'r cyhoeddiad gan ddweud nad oedd yn cynnig unrhyw wybodaeth newydd.
Cyhuddodd Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gweinidog Iechyd Edwina Hart AC o beidio cyhoeddi'r adroddiad yn ystod sesiwn lawn ar 21 Medi 2010.
Rhybuddiodd serch hynny y bydd "mwy o reidrwydd i rannu'r cytundeb" ac y bydd hyn "yn ddatblygiad defnyddiol iawn wrth roi cyfle i SMEs geisio am y cytundebau mwy".
Galwodd yr AC Eluned Parrott am lansio'r enwau parthau efo "clec, nid gwich" er mwyn annog busnesau i ddefnyddio'r enwau newydd.
Fe wnaeth AC Gorllewin De Cymru Peter Black ddadlau y dylai'r heddlu weithio gyda llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a phartneriaid eraill i ddarparu ymateb effeithiol i drosedd ac anrhefn.
Wrth arwain y ddadl, dywedodd Mark Isherwood AC mai ond 2% o'r rhai sy'n gymwys i gael y taliadau uniongyrchol sy'n eu cael nhw.
Mae'r llywodraeth wedi mynnu bod adroddiad yr Athro Longley wedi'i gomisiynu gan brif weithredwyr y byrddau iechyd lleol a nad oedd ganddynt unrhyw ddylanwad arno ac eithrio i ddarparu gwybodaeth i'r awdur.
Bwriad y gweinidog yw sicrhau fod ymchwil ac arloesi yn rhan allweddol o'r gwasanaeth iechyd, er mwyn cwrdd ag anghenion cleifion yng Nghymru, gwella iechyd a chynyddu nifer y bobl mewn gwaith.
Wrth ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Alun Davies AC fod economi Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi dioddef degawdau o ddirywiad strwythurol y byddai'n anodd ei ddad-wneud mewn pedair neu bum mlynedd.
Ond fe ddywedodd llefarydd Economi'r Ceidwadwyr David Melding ei fod wedi'i synnu nad oedd y llywodraeth wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio achub y swyddi ac i berswadio Bosch i gadw'r ffatri ar agor.
Wrth gyflwyno'r cynnig fe ddywedodd yr AC Simon Thomas y gallai Cymru gael ei brandio "yn fwy effeithiol" a bod gwell gan bron i 60% o drigolion Cymru y parth '.cymru' yn hytrach na '.wales', er bod busnesau yn dweud fel arall.
Mae wedi bod yn mynd ymlaen am amser hir ac yr wyf yn meddwl y dylai'r byrddau iechyd weithredu nawr .
应用推荐