Pwysleisiodd y gweinidog ei bod yn ymddiried yn ei swyddogion a mynnodd ei bod yn "gwbl addas" iddynt fod mewn cysylltiad gyda'r awdur, yr Athro Marcus Longley.
Dywedodd Dr Wiliam bod ymchwiliad ac ymchwil yn "beth hanfodol a dylid ei gynnwys".
Dywedodd Dr Phillip Dixon o Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr ei fod yn croesawu'r cynnydd bach yn y gyllideb, er gwaethaf y sefyllfa ariannol bresennol.
Dywedodd hefyd fod croeso i unrhyw ysgolion sy'n credu eu bod wedi eu gosod yn y band cywir gysylltu, a byddai ei swyddogion yn asesu'r penderfyniad maes o law.
Mae gwleidyddion yr wrthbleidiau wedi dweud fod yr adroddiad, a gafodd ei ddarganfod yn llyfrgell y cynulliad gan y Democratiaid Rhyddfrydol, yn dystiolaeth bod llywodraeth Cymru wedi anwybyddu rhybuddion am y sefydliad.
Wrth gyfrannu i'r ddadl, dywedodd Rhodri Glyn Thomas, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei fod am weld gwasanaethau cynhwysfawr yr heddlu yn cael eu diogelu.
Fe amlinellodd hefyd rhoi hwb i'r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus ymysg ei blaenoriaethau.
Gwnaed y sylwad gan John Griffiths yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a oedd yn craffu ar ei waith ar 27 Mehefin 2012.
Bydd CD-Rom o'r lluniau meheryn yn cael ei gynhyrchu, a fydd ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer darpar-brynwyr o flaen yr arwerthiant.
Roedd Ms Wood ymhlith nifer o ACau a heriodd llywodraeth Cymru am ei chefnogaeth o fusnesau bach yn ystod y sesiwn lawn ar 22 Chwefror 2012.
Nodwyd yr angen i gael mwy o nyrsys sy'n arbenigo mewn gofal newyddanedigol mewn adolygiad capasiti, a chafodd bwrdd Betsi Cadwaladr ei nodi gan yr elusen Bliss mewn cyhoeddiad oedd yn amlinellu diffyg gofal newyddenedigol.
Dywedodd fod y ddadl wedi cael ei "difrodi" a bod gweithwyr proffesiynol yn "gwbwl siomedig".
Fe fynodd AC Arfon Alun Ffred Jones ei fod yn afrealistig a gwastraffus i greu strategaeth ar gyfer un rhan o'r genedl pan fod strategaeth economaidd ar gyfer Cymru gyfan eisoes yn bodoli.
Mae Cwysi hefyd yn cynnal noson yn y Foelas, Pentrefoelas, ar nos Lun, Hydref 15 am 7.30 o'r gloch, lle bydd cyfle i weld y lluniau digidol a chyfle i ffermwyr drafod ymysg ei gilydd o flaen llaw.
Fe ymatebodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd i gwestiynau AC Cwm Cynon, Christine Chapman am y gwaith sy'n cael ei wneud gan lywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig.
Lleisiwyd pryder gan aelodau'r tair gwrthblaid ynghylch ymarferoldeb y cynllun a'r ymrwymiad ariannol sydd wedi ei wneud gan y llywodraeth yn seiliedig ar ffigyrau sydd wedi eu hamcangyfrif.
Dywedodd fod y mesur wedi cael ei lunio er mwyn diwygio a moderneiddio Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a swydd archwilydd cyffredinol Cymru, oherwydd bod problemau wedi codi yn y gorffennol.
Ond fe ddywedodd y cwmni mai dyma'r argyfwng economaidd gwaethaf iddyn nhw ei weld ers blynyddoedd, a'u bod nhw'n bwriadu symud y gwaith o Feisgyn ger Llantrisant i Hwngari yn 2011.
"Nid yw taliadau uniongyrchol yn gweddu i bob person anabl, rhaid i gyllid canolog i ofal cymdeithasol barhau hefyd, " meddai, gan dderbyn gwelliannau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gynnig ei blaid.
Bu Angela Burns AC, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn galw am gyflwyno system gwregys las, lle mae'r datblygiad o eiddo preswyl ar dir ger afonydd, arfordiroedd a llynnoedd mewn risg uchel o lifogydd ei wahardd.
Esboniodd Dr Davies mewn cyhoeddiad a roddwyd i'r pwyllgor, ei bod hi'n ymddangos bod "rhagdybiaeth o fewn asiantaethau gofal cymdeithasol, bod modd i blant ifanc sydd wedi dioddef caledi sylweddol, dderbyn y gofal gorau gan deulu mabwysiadol, oherwydd eu bod nhw'n ifanc".
Roedd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gwrando ar dystiolaeth yn ei ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru (UGC).
Chemical manufacturing giant EI du Pont de Nemours sounded a troubling tone for the market Friday morning, when the company lowered its 2011 earnings outlook to reflect slower growth and demand in several of its business segments.
Fe gadarnhaodd Mr Davies fod y llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector preifat i'r economi a dywedodd bod ymgynghoriad busnes penodol yn cael ei lansio wythnos nesaf i edrych ar sut mae'r llywodraeth yn gallu cyfoethogi ymwneud y gymuned fusnes.
Myngeodd Lindsay Whittle AC ei farn yn ystod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Fe wnaeth y gweinidog fynegu ei siom gyda sylwadau'r aelod a phwysleisiodd fod mynd i'r afael ag achosion hir-dymor tlodi yng Nghymru yn flaenoriaeth i lywodraeth Cymru.
Wrth gyflwyno'r cynnig fe ddywedodd yr AC Simon Thomas y gallai Cymru gael ei brandio "yn fwy effeithiol" a bod gwell gan bron i 60% o drigolion Cymru y parth '.cymru' yn hytrach na '.wales', er bod busnesau yn dweud fel arall.
Fe ddyfynnodd Joyce Watson, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Ian Arundale, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, sy'n disgrifio'r toriadau fel "trobwynt ar gyfer plismona yng nghanolbarth a gorllewin Cymru" ac sy'n dweud ei fod yn wirioneddol gofidio am sut fydd yn diogelu cymunedau.
Fe gadarnhaodd Mr Davies fod cynhadledd laeth yn cael ei chynnal ym mis Mehefin i drafod blaenoriaethau a chytuno ar ffordd ymlaen.
Serch hynny, mae Comisiwn Holtham a sefydlwyd yn 2008 wedi argymell y dylai fformiwla Barnett gael ei ddisodli gan fformiwla sy'n seiliedig ar angen, yn hytrach na phoblogaeth.
应用推荐