Fe wnaeth AC y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott AC hefyd groesawu'r cyfle i ddadlau gweledigaeth Ms Wood ar gyfer y cymoedd, ond pwysleisiodd nad oedd gan y ddogfen "yr holl atebion".
Yn hwyrach, wrth ymateb i gwestiwn gan AC Ceredigion Elin Jones, dywedodd Ms Griffiths bod angen i'r llywodraeth fod yn "fwy gwyddonol" wrth recriwtio staff meddygol.
Fe wnaeth Ms Hart ddatgan ei chefnogaeth i ddatganoli'r ardrethi busnes gan ddweud ei nad oedd hi'n "rhagweld unrhyw anfanteision" i Gymru petai hynny'n digwydd.