Pwysleisiodd Leighton Andrews AC taw nod y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion ac nid creu tablau perfformio.
Clefydau prin yw heintiau sy'n effeithio ar ganran fach o'r boblogaeth megis haemoffilia a nychdod cyhyrol.
Mae'n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i dalu am frecwastau os yw corff llywodraethu ysgol yn gofyn amdanynt.
Dywedodd Ms Martin mai rhoi genedigaeth i faban marw-enedig yw'r "teimlad mwyaf dychrynllyd gall unrhyw un ddioddef" wrth yr ACau.
Wrth ymateb i gwestiynau aelodau cynulliad pryderus sy'n cynrychioli'r ardal, dywedodd mai "dim ond cyfle i leisio barn yw'r cynlluniau".
Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen llywodraeth y cynulliad i wella amodau byw a rhagolygon y bobl yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae cefnogaeth drawsbleidiol i newid y system ariannu wrth i'r pleidiau gytuno nag yw'r setliad ariannol presennol yn addas i'r diben.
Nod y ddeddf, a gyflwynwyd yn 2009, yw gwella rheolaeth, cynyddu cadwraeth amgylchedd morwrol a gwella'r mynediad hamdden i arfordir Cymru.
Dywedodd Ms Hart mai pwrpas parthau menter yw "creu cyfleoedd am swyddi".
Heriwyd y ddau i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y system newydd ar hen un os yw'r teulu sy'n parhau i gael y gair olaf.
LHLl yw'r dull sy'n cael ei ddefnyddio i gyfrifo budd-dal tai ac wedi ei seilio ar y ffigwr rhent canolrif ar gyfer ardal benodol.
Rhannwyd y farn hon gan Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac fe'i disgrifiodd fel "dogfen ryfedd" nad yw'n addas at y diben.
Un o'r problemau mwyaf wrth weithredu cynlluniau rheoli arfordirol (SMPs) yw bod yr amser sydd ganddynt i ystyried y mater, yn aml yn hir iawn.
Nod yr ymchwiliad yw edrych ar sut y gall y llywodraeth gynorthwyo a darparu cyfleoedd i feithrin y diddordeb cynyddol mewn rhandiroedd a garddio cymunedol.
Prif ffocws y rhaglen yw cynyddu nifer y plant sy'n cael eu dysgu'n dda am y tro cyntaf, ac i leihau'r nifer sydd angen cefnogaeth uniongyrchol.
Pwysleisiodd Ieuan Wyn Jones yr angen am gamau cadarnach pan fo grantiau'n cael eu camddefnyddio gan atgyfnerthu gofynion os yw arian yn parhau i gael ei roi.
Mae Horizon 2020 yn rhaglen ymchwil a datblygu Ewropeaidd a'r bwriad yw ffurfio rhan allweddol o'r ymgyrch gyffredinol i greu twf a swyddi newydd ar draws Ewrop.
Cymru yw un o sylfaenwyr Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, sy'n cynrychioli dros 600 o lywodraethau is-genedlaethol o fewn y Cenhedloedd Unedig ar faterion cynaliadwyedd.
Fodd bynnag, mae adroddiad y gyllideb yn esbonio er bod yr adran "wedi bod mewn sefyllfa yn y gorffennol lle'r oedd cyllidebau'n cynyddu'n flynyddol, nid yw hyn yn wir bellach".
Rhybuddiodd Lisa Turnbull o Goleg Brenhinol y Nyrsys fod y mater o greu swyddi yn broblem ond taw'r broblem sylfaenol yw cael staff hyfforddedig i lenwi'r swyddi hynny.
Lleisiodd bryder hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau 3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol.
Dywedodd AC y Ceidwadwyr Suzy Davies nad yw ysbyty Treforys "yn ymdopi" a'i bod yn poeni bod uno tair uned frys mewn un ysbyty yn "mynd yn rhy bell".
Amcan y Bil yw galluogi'r llywodraeth, ar ran y wasanaeth iechyd yng Nghymru, i adennill costau gofal a thriniaethau meddygol sydd wedi cael eu darparu i gleifion sy'n dioddef clefyd Asbestos.
Diben y bwrdd, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o amryw o wasanaethau a sectorau ar draws Cymru, yw rhoi arweiniad a phennu camau priodol i hwyluso arbedion a gwelliannau yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Tra'i fod yn cydnabod nad yw'r rhaglen yn addas ar gyfer pawb gan fod cost uchel i gymryd rhan, pwysleisiodd Dr Davies "fod y manteision ar gyfer yr SMEs iawn yn anferthol".
"Nid yw taliadau uniongyrchol yn gweddu i bob person anabl, rhaid i gyllid canolog i ofal cymdeithasol barhau hefyd, " meddai, gan dderbyn gwelliannau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gynnig ei blaid.
Roedd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC, wedi amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol y Cynulliad am y flwyddyn, gan nodi mai tlodi plant, tai, iechyd, addysg, yr amgylchedd a'r Iaith Gymraeg yw blaenoriaethau'r llywodraeth.
Bwriad y gweinidog yw sicrhau fod ymchwil ac arloesi yn rhan allweddol o'r gwasanaeth iechyd, er mwyn cwrdd ag anghenion cleifion yng Nghymru, gwella iechyd a chynyddu nifer y bobl mewn gwaith.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2010 yn dangos er bod mwy o arian yn cael ei wario ar y GIG yng Nghymru, nid yw ysbytai Cymru yn cael gwerth eu harian.
Pwysleisiodd ei gyd-aelod Aled Roberts bwysigrwydd y prynwyr yma yn y cylch tai wrth iddo ddadlau nad oes pwrpas gobeithio y bydd pobl yn dringo'r ysgol dai os yw gris isaf yr ysgol ar goll.
应用推荐