-
Esboniodd Niall Duffy o Flybe ei bod hi'n hi mond yn cymryd chwe wythnos i gwmni hafan ychwanegu taith arall gan ei fod yn un o'r busnesau mwyaf ymatebol.
BBC: Pwyllgor Menter a Busnes
-
Rhestrodd Ms Evans y problemau cyffredin sydd yn gwynebu dioddefwyr clefydau prin: "Mynediad i ddiagnosis amserol, diagnosis anghywir, cael gafal ar wybodaeth, cydlynu gofal gwael, problemau trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, cael hi'n anodd dod o hyd at driniaeth, diffyg ymchwil ac anghydraddoldeb o ddarpariaethau".
BBC: Dadl fer: Clefydau anghyffredin
-
Ar y pryd cafodd y system ei ddisgrifio gan rai fel loteri cod post, tra bod eraill o'r farn bod y system yn gwneud hi'n anodd i rieni i ddod o hyd at ofal addas ar gyfer eu plant.
BBC: 12 Mehefin 2007: Yr LCO cyntaf
-
Mynegodd byrder ei bod hi'n annhebygol y bydd y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd ei tharged o ymateb i 65% o alwadau o fewn wyth munud dros y gaeaf os yw hi'n methu a gwneud hynny pan fo'r tywydd yn fwynach.
BBC: Dadl y Ceidwadwyr
-
Esboniodd Ms Jones mai ond adeiladu dros 30 metr o uchder sy'n gorfod cael systemau awtomatig ar hyn o bryd, ond ei bod hi'n awyddus i orfodi tai newydd i gael y systemau hyn hefyd.
BBC: Y cynulliad
-
Canolbwyntiodd Bethan Jenkins AC yn ei chyfraniad hi ar y nifer siomedig o ferched sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, a galwodd am well cydweithio rhwng ysgolion a chlybiau lleol.
BBC: Datganiad ar blant egn?ol
-
Wrth agor y ddadl tynnodd Janet Finch Saunders AC sylw at sawl cynllun o eiddo'r llywodraeth y mae hi'n dweud nad oedd yn werth am arian, gan gynnwys adeilad llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
BBC: Dadl y Ceidwadwyr ar werth am arian
-
Atgoffodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams y siambr fod y gweinidog iechyd wedi mynnu bod rhaid i reolwyr y gwasanaeth iechyd "gyrraedd y targedau sydd wedi eu gosod" wrth iddi bwysleisio ei bod hi'n rhoi llawer o bwys ar weithio o fewn y gyllideb benodedig.
BBC: Cwestiynau'r prif wenidog
-
Esboniodd Dr Davies mewn cyhoeddiad a roddwyd i'r pwyllgor, ei bod hi'n ymddangos bod "rhagdybiaeth o fewn asiantaethau gofal cymdeithasol, bod modd i blant ifanc sydd wedi dioddef caledi sylweddol, dderbyn y gofal gorau gan deulu mabwysiadol, oherwydd eu bod nhw'n ifanc".
BBC: Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
-
Dywedodd Carl Sargeant AC wrth aelodau'r pwyllgor deisebau nad oedd hi'n fwriad gan lywodraeth Cymru i wneud hynny'n orfodol ar hyn o bryd ac mai penderfyniad i awdurdodau lleol ydoedd.
BBC: Pwyllgor deisebau