-
Wrth roi tystiolaeth, fe wnaeth ymarferwyr eraill nodi diffyg tryloywder a chyfathrebu o'r amcanion strategol a thargedau fel un o'u prif bryderon.
BBC: Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
-
Roedd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC, wedi amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol y Cynulliad am y flwyddyn, gan nodi mai tlodi plant, tai, iechyd, addysg, yr amgylchedd a'r Iaith Gymraeg yw blaenoriaethau'r llywodraeth.
BBC: 12 Mehefin 2007: Yr LCO cyntaf
-
Fe wnaeth yr aelod Plaid Cymru Leanne Wood nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.
BBC: Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol
-
Fe wnaeth adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru nodi fod swyddogion wedi methu ag ymateb i rybuddion dros gyfnod o ddeng mlynedd, a dyma'r 19 adroddiad i gam reoli grantiau dywedodd Mr Davies wrth ACau.
BBC: Dadl y Ceidwadwyr
-
Nodwyd yr angen i gael mwy o nyrsys sy'n arbenigo mewn gofal newyddanedigol mewn adolygiad capasiti, a chafodd bwrdd Betsi Cadwaladr ei nodi gan yr elusen Bliss mewn cyhoeddiad oedd yn amlinellu diffyg gofal newyddenedigol.
BBC: Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
-
Mae'r rhaglen yn nodi y dylai ysgolion fod yn addas at y diben a bod angen rhaglen buddsoddi sylweddol i adnewyddu adeiladu, gyda mwy o arian nag a ddarparwyd yn ystod tymor diwethaf y cynulliad.
BBC: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
-
Fe wnaeth Carwyn Jones AC barhau i wadu fod y byrddau iechyd mewn trafferthion ariannol wrth iddo ddadlau fod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi fod y gwasanaeth iechyd mewn gwell safle nag oedd y llynedd.
BBC: Cwestiynau i'r prif weinidog
-
Wrth gyfrannu at y ddadl fe wnaeth Eluned Parrott AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol alw ar y llywodraeth i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
BBC: Dadl ar strategaeth yr iaith Gymraeg 2012-17